ECCLESIASTES
Chapter 4
Eccl | WelBeibl | 4:1 | Dyma fi'n ystyried yr holl orthrwm sy'n digwydd yn y byd. Gwelais ddagrau'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond doedd neb yn eu cysuro nhw. Doedd neb i'w hachub nhw o afael y gorthrymwyr. | |
Eccl | WelBeibl | 4:2 | Roedd rhaid i mi longyfarch y rhai oedd eisoes wedi marw, am eu bod yn well eu byd na'r rhai sy'n dal yn fyw. | |
Eccl | WelBeibl | 4:3 | Ond mae'n well fyth ar y rhai hynny sydd ddim wedi cael eu geni, a ddim yn gorfod edrych ar yr holl ddrygioni sy'n digwydd yn y byd! | |
Eccl | WelBeibl | 4:4 | Yna dyma fi'n ystyried holl waith caled a thalentau pobl. Dydy hynny i gyd yn ddim byd ond cystadleuaeth rhwng pobl a'i gilydd! Does dim sens yn y peth! Mae fel ceisio rheoli'r gwynt! | |
Eccl | WelBeibl | 4:6 | Ac eto, “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.” Ydy, mae fel ceisio rheoli'r gwynt! | |
Eccl | WelBeibl | 4:8 | Rhywun sydd ar ei ben ei hun yn llwyr – heb gymar na phlant na pherthnasau – ac eto'n gweithio'n ddi-stop, a byth yn fodlon gyda beth sydd ganddo. “Pam dw i'n gwneud hyn, ac amddifadu fy hun o fwynhad?” meddai. Dydy peth felly yn gwneud dim sens! Mae'n drist iawn. | |
Eccl | WelBeibl | 4:9 | “Mae dau gyda'i gilydd yn well nag un.” Wrth weithio gyda'i gilydd mae'r ddau berson ar eu hennill. | |
Eccl | WelBeibl | 4:10 | Os bydd un yn syrthio, bydd y llall yn gallu ei helpu i godi. Ond druan o'r person sydd ar ei ben ei hun, heb neb i'w helpu i godi. | |
Eccl | WelBeibl | 4:11 | Hefyd, “Os ydy dau yn gorwedd gyda'i gilydd, maen nhw'n cadw'n gynnes.” Ond sut mae rhywun i fod i gadw'n gynnes pan fydd ar ei ben ei hun? | |
Eccl | WelBeibl | 4:12 | “Pan fydd rhywun yn ymosod, mae dau yn fwy tebygol o'i rwystro nag un.” “Dydy rhaff deircainc ddim yn hawdd i'w thorri!” | |
Eccl | WelBeibl | 4:13 | “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well na brenin mewn oed sy'n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.” | |
Eccl | WelBeibl | 4:14 | Hyd yn oed os oedd e'n y carchar cyn dod i reoli, ac wedi'i eni'n dlawd yn y wlad y byddai'n teyrnasu arni. | |
Eccl | WelBeibl | 4:15 | Yna dyma fi'n gweld yr holl bobl sy'n byw yn y byd yn sefyll o gwmpas bachgen ifanc arall fyddai'n ei olynu. | |