Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HEBREWS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Prev Up Next
Chapter 2
Hebr WelBeibl 2:1  Felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando'n ofalus ar y neges dŷn ni wedi'i chlywed. Mae fel angor yn ein cadw ni rhag drifftio i ffwrdd gyda'r llif.
Hebr WelBeibl 2:2  Roedd y neges roddodd Duw i ni drwy angylion yn gwbl ddibynadwy, ac roedd pawb oedd yn torri'r Gyfraith neu'n anufudd yn cael beth oedden nhw'n ei haeddu.
Hebr WelBeibl 2:3  Felly pa obaith sydd i ni ddianc rhag cael ein cosbi os gwnawn ni ddiystyru'r neges ffantastig yma am Dduw yn achub! Cafodd ei chyhoeddi gyntaf gan yr Arglwydd Iesu ei hun. Wedyn cafodd ei rhannu gyda ni gan y bobl hynny oedd wedi clywed Iesu.
Hebr WelBeibl 2:4  Ac roedd Duw yn profi fod beth roedden nhw'n ei ddweud yn wir drwy achosi i arwyddion rhyfeddol ddigwydd a phob math o wyrthiau. Fe oedd yn dewis rhoi'r Ysbryd Glân i alluogi pobl i wneud pethau fel hyn.
Hebr WelBeibl 2:5  A pheth arall – nid angylion sydd wedi cael yr awdurdod i reoli'r byd sydd i ddod.
Hebr WelBeibl 2:6  Mae rhywun wedi dweud yn rhywle: “Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw? Pam ddylet ti ofalu am berson dynol?
Hebr WelBeibl 2:7  Rwyt wedi'i wneud am ychydig yn is na'r angylion; ond yna ei goroni ag ysblander ac anrhydedd
Hebr WelBeibl 2:8  a gosod popeth dan ei awdurdod.” Mae “popeth” yn golygu fod dim byd arall i Dduw ei osod dan ei awdurdod. Ond dŷn ni ddim yn gweld “popeth dan ei awdurdod” ar hyn o bryd.
Hebr WelBeibl 2:9  Ond dŷn ni'n gweld ei fod yn wir am Iesu! Am ychydig amser cafodd e hefyd ei wneud yn is na'r angylion, a hynny er mwyn iddo farw dros bawb. Ac mae Iesu wedi “Ei goroni ag ysblander ac anrhydedd” am ei fod wedi marw! Mae'n dangos mor hael ydy Duw, fod Iesu wedi marw dros bob un ohonon ni.
Hebr WelBeibl 2:10  Duw wnaeth greu popeth, a fe sy'n cynnal popeth, felly mae'n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Drwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e'n arweinydd perffaith i'w hachub nhw.
Hebr WelBeibl 2:11  Mae'r un sy'n glanhau pobl, a'r rhai sy'n cael eu glanhau yn perthyn i'r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw'r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd.
Hebr WelBeibl 2:12  Mae'n dweud: “Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr a'm chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.”
Hebr WelBeibl 2:13  Ac wedyn, “Dw i'n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a'r plant mae Duw wedi'u rhoi i mi.”
Hebr WelBeibl 2:14  Gan ein bod ni'r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu'n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy'n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol.
Hebr WelBeibl 2:15  Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.
Hebr WelBeibl 2:16  Pobl sy'n blant i Abraham mae Iesu'n eu helpu, nid angylion!
Hebr WelBeibl 2:17  Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a'i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai'n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw.
Hebr WelBeibl 2:18  Am ei fod e'i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae'n gallu'n helpu ni pan fyddwn ni'n wynebu temtasiwn.