I THESSALONIANS
Chapter 2
I Th | WelBeibl | 2:1 | A ffrindiau, dych chi'ch hunain yn gwybod bod ein hymweliad ni ddim wedi bod yn wastraff amser. | |
I Th | WelBeibl | 2:2 | Er ein bod ni wedi dioddef a chael ein cam-drin yn Philipi, dyma Duw yn rhoi'r hyder i ni i fynd ymlaen i rannu ei newyddion da gyda chi, er gwaetha'r holl wrthwynebiad. | |
I Th | WelBeibl | 2:3 | Doedden ni ddim yn dweud celwydd wrth geisio'ch argyhoeddi chi, nac yn gwneud dim o gymhellion anghywir, nac yn ceisio'ch tricio chi. | |
I Th | WelBeibl | 2:4 | Na, fel arall yn hollol! Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges am fod Duw wedi'n trystio ni gyda'r newyddion da. Dim ceisio plesio pobl dŷn ni'n ei wneud, ond ceisio plesio Duw. Mae e'n gwybod beth sy'n ein calonnau ni. | |
I Th | WelBeibl | 2:5 | Dych chi'n gwybod ein bod ni ddim wedi ceisio'ch seboni chi. A doedden ni ddim yn ceisio dwyn eich arian chi chwaith – mae Duw'n dyst i hynny! | |
I Th | WelBeibl | 2:7 | Gallen ni fod wedi gofyn i chi'n cynnal ni, gan ein bod ni'n gynrychiolwyr personol i'r Meseia, ond wnaethon ni ddim. Buon ni'n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron. | |
I Th | WelBeibl | 2:8 | Gan ein bod ni'n eich caru chi gymaint, roedden ni'n barod i roi'n bywydau drosoch chi yn ogystal â rhannu newyddion da Duw gyda chi. Roeddech chi mor annwyl â hynny yn ein golwg ni. | |
I Th | WelBeibl | 2:9 | Dych chi'n siŵr o fod yn cofio mor galed y buon ni'n gweithio pan oedden ni acw. Buon ni wrthi'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni tra oedden ni'n pregethu newyddion da Duw i chi. | |
I Th | WelBeibl | 2:10 | Dych chi'n dystion, ac mae Duw'n dyst hefyd, ein bod ni wedi bod yn ddidwyll, yn deg a di-fai yn y ffordd wnaethon ni eich trin chi ddaeth i gredu. | |
I Th | WelBeibl | 2:12 | yn eich calonogi chi a'ch cysuro chi a'ch annog chi i fyw fel mae Duw am i chi fyw. Mae e wedi'ch galw chi i fyw dan ei deyrnasiad e, ac i rannu ei ysblander. | |
I Th | WelBeibl | 2:13 | Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni'n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn – neges gan Dduw, dim syniadau dynol. Ac mae'n amlwg fod Duw ar waith yn eich bywydau chi sy'n credu. | |
I Th | WelBeibl | 2:14 | Ffrindiau, mae'r un peth wedi digwydd i chi ag a ddigwyddodd i eglwysi Duw yn Jwdea sy'n gwasanaethu'r Meseia Iesu. Mae eich pobl eich hunain wedi gwneud i chi ddioddef yn union fel gwnaeth yr arweinwyr Iddewig iddyn nhw ddioddef. | |
I Th | WelBeibl | 2:15 | Nhw ydy'r bobl laddodd yr Arglwydd Iesu a'r proffwydi, a nhw sy'n ein herlid ni bellach. Maen nhw'n gwneud Duw yn ddig! Maen nhw'n elynion i'r ddynoliaeth gyfan | |
I Th | WelBeibl | 2:16 | am eu bod nhw'n ceisio ein rhwystro ni rhag cyhoeddi'r newyddion da er mwyn i bobl o genhedloedd eraill gael eu hachub. Maen nhw'n pentyrru eu pechodau yn ddiddiwedd wrth ymddwyn fel yma. Ond mae cosb Duw'n mynd i'w dal nhw yn y diwedd. | |
I Th | WelBeibl | 2:17 | Ffrindiau, yn fuan iawn ar ôl i ni gael ein gwahanu oddi wrthoch chi (dim ond yn gorfforol – achos roeddech chi'n dal ar ein meddyliau ni), roedden ni'n hiraethu am gael eich gweld chi eto. Roedden ni'n benderfynol o ddod yn ôl i'ch gweld chi. | |
I Th | WelBeibl | 2:19 | Wedi'r cwbl, chi sy'n rhoi gobaith i ni! Chi sy'n ein gwneud ni mor hapus! Chi ydy'r goron fyddwn ni mor falch ohoni pan safwn ni o flaen ein Harglwydd Iesu ar ôl iddo ddod yn ôl! | |