II CHRONICLES
Chapter 1
II C | WelBeibl | 1:1 | Roedd Solomon fab Dafydd wedi sefydlu ei awdurdod dros ei deyrnas, achos roedd yr ARGLWYDD ei Dduw yn ei helpu ac wedi'i wneud yn frenin pwerus iawn. | |
II C | WelBeibl | 1:2 | Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel i gyd at ei gilydd – arweinwyr y fyddin (sef capteiniaid ar unedau o fil ac o gant), y barnwyr, a holl arweinwyr Israel oedd yn benaethiaid teuluoedd. | |
II C | WelBeibl | 1:3 | A dyma Solomon a'r bobl i gyd yn mynd i addoli wrth yr allor leol yn Gibeon, gan mai dyna lle roedd pabell presenoldeb Duw – yr un roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi'i gwneud yn yr anialwch. | |
II C | WelBeibl | 1:4 | (Roedd Dafydd wedi dod ag Arch Duw o Ciriath-iearîm i Jerwsalem, sef y lle roedd wedi'i baratoi iddi, ac wedi codi pabell iddi yno. | |
II C | WelBeibl | 1:5 | Ond roedd yr allor bres wnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr Hur, o flaen Tabernacl yr ARGLWYDD.) Dyna lle'r aethon nhw i geisio Duw. | |
II C | WelBeibl | 1:6 | A dyma Solomon yn mynd at yr allor bres o flaen yr ARGLWYDD, ac offrymu mil o aberthau i'w llosgi arni. | |
II C | WelBeibl | 1:7 | Y noson honno dyma Duw yn dod at Solomon a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” | |
II C | WelBeibl | 1:8 | A dyma Solomon yn ateb, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad, ac rwyt wedi fy ngwneud i yn frenin yn ei le. | |
II C | WelBeibl | 1:9 | O, ARGLWYDD Dduw, gwna i'r addewid honno wnest ti i Dafydd fy nhad ddod yn wir. Ti wedi fy ngwneud i'n frenin ar gymaint o bobl ag sydd o lwch ar y ddaear. | |
II C | WelBeibl | 1:10 | Rho i mi'r ddoethineb a'r wybodaeth sydd ei angen i lywodraethu'r bobl yma'n iawn. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” | |
II C | WelBeibl | 1:11 | A dyma Duw'n ateb Solomon, “Am mai dyna rwyt ti eisiau, y ddoethineb a'r wybodaeth i lywodraethu'r bobl yma'n iawn – a dy fod ddim wedi gofyn am feddiannau, cyfoeth, ac anrhydedd, neu i'r rhai sy'n dy gasáu gael eu lladd; wnest ti ddim hyd yn oed gofyn am gael byw yn hir – | |
II C | WelBeibl | 1:12 | dw i'n mynd i roi doethineb a gwybodaeth i ti. Ond dw i hefyd yn mynd i roi mwy o gyfoeth, meddiannau, ac anrhydedd i ti nag unrhyw frenin ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.” | |
II C | WelBeibl | 1:13 | Felly dyma Solomon yn gadael pabell presenoldeb Duw oedd wrth yr allor yn Gibeon, a mynd yn ôl i Jerwsalem, lle roedd yn teyrnasu ar Israel. | |
II C | WelBeibl | 1:14 | Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem. | |
II C | WelBeibl | 1:15 | Roedd arian ac aur mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. | |
II C | WelBeibl | 1:16 | Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe. | |