Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MALACHI
1 2 3 4
Prev Up Next
Chapter 3
Mala WelBeibl 3:1  “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd, a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i. Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio yn dod i'w deml. Ydy, mae angel yr ymrwymiad, dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Mala WelBeibl 3:2  Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw? Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg? Achos mae e fel tân sy'n toddi metel neu sebon y golchwr.
Mala WelBeibl 3:3  Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian; ac yn puro disgynyddion Lefi – bydd yn eu gloywi fel aur ac arian, er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD.
Mala WelBeibl 3:4  Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem yn plesio'r ARGLWYDD fel roedden nhw ers talwm, yn yr hen ddyddiau.
Mala WelBeibl 3:5  “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu; dw i'n barod i dystio yn erbyn pawb sydd ddim yn fy mharchu – y rhai sy'n dewino ac yn godinebu, sy'n dweud celwydd ar lw, sy'n gormesu gweithwyr (drwy atal eu cyflog), yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad, ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Mala WelBeibl 3:6  “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid, a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”
Mala WelBeibl 3:7  “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau, a ddim yn eu cadw. Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.
Mala WelBeibl 3:8  “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw? Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.” “Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi. “Drwy gadw'r degymau a'r offrymau.
Mala WelBeibl 3:9  Dych chi'n diodde melltith, am eich bod chi'n dwyn oddi arna i – ie, y cwbl lot ohonoch chi!
Mala WelBeibl 3:10  Dewch â'r degwm llawn i'r stordy, fel bod yna fwyd yn fy nheml. Ie, rhowch fi ar brawf,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoedd ac yn tywallt bendith arnoch chi; fyddwch chi'n brin o ddim byd!
Mala WelBeibl 3:11  Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid, rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir; fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Mala WelBeibl 3:12  “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud eich bod wedi'ch bendithio, am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Mala WelBeibl 3:13  “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Beth ydyn ni wedi'i ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.
Mala WelBeibl 3:14  “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw. Beth ydyn ni wedi'i ennill o wrando arno a mynd o gwmpas yn edrych yn drist o flaen yr ARGLWYDD hollbwerus?
Mala WelBeibl 3:15  Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! – maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo; maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”
Mala WelBeibl 3:16  Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.
Mala WelBeibl 3:17  “Nhw fydd fy mhobl i,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod. Bydda i'n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.
Mala WelBeibl 3:18  Byddwch chi'n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg, rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duw a'r rhai sydd ddim.