SONG OF SOLOMON
Chapter 5
Song | WelBeibl | 5:1 | Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad – i gasglu fy myrr a'm perlysiau, i flasu'r diliau a'r mêl, ac i yfed y gwin a'r llaeth. Y gwesteion: Mwynhewch y wledd, gariadon! Yfwch a meddwi ar anwesu a charu! | |
Song | WelBeibl | 5:2 | Y ferch: Rôn i'n gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro. Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo – Y cariad: “Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd, fy nghariad, fy ngholomen berffaith. Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith, a'm pen yn llaith gan niwl y nos.” | |
Song | WelBeibl | 5:3 | Y ferch: “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i. Ti am i mi wisgo eto, wyt ti? A dw i wedi golchi fy nhraed. Oes rhaid i mi eu baeddu eto?” | |
Song | WelBeibl | 5:5 | Codais i'w adael i mewn; roedd fy nwylo'n diferu o fyrr – roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd pan afaelais yn yr handlen. | |
Song | WelBeibl | 5:6 | Agorais y drws i'm cariad, ond roedd e wedi troi a mynd! Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth. Chwiliais amdano, ond methu ei gael; galwais arno, ond doedd dim ateb. | |
Song | WelBeibl | 5:7 | Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre. Dyma nhw'n fy nghuro a'm cam-drin a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i – y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau'r ddinas! | |
Song | WelBeibl | 5:8 | Ferched Jerwsalem, gwrandwch – os dewch chi o hyd i'm cariad, dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad. | |
Song | WelBeibl | 5:9 | Y merched wrth y ferch: O'r harddaf o ferched, beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill? Beth sy'n gwneud dy gariad yn well na dynion eraill, i ti grefu mor daer â hyn? | |
Song | WelBeibl | 5:10 | Y ferch: Mae nghariad yn ffit ac yn iach; mae'n sefyll allan yng nghanol y dyrfa. | |
Song | WelBeibl | 5:12 | Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr, yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle. | |
Song | WelBeibl | 5:13 | Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau, a chusan ei wefusau fel y lili yn diferu o fyrr. | |
Song | WelBeibl | 5:14 | Mae ei freichiau cyhyrog fel aur wedi'u haddurno â meini gwerthfawr; a'i gorff lluniaidd fel ifori llyfn wedi'i orchuddio â meini saffir. | |
Song | WelBeibl | 5:15 | Mae ei goesau fel pileri o farmor wedi'u gosod ar sylfaen o aur pur. Mae e'n sefyll fel mynyddoedd Libanus a'u coed cedrwydd urddasol. | |