SONG OF SOLOMON
Chapter 1
Song | WelBeibl | 1:2 | Y ferch wrth ei chariad: Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd! Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin, | |
Song | WelBeibl | 1:3 | ac arogl dy bersawr mor hyfryd. Rwyt fel yr olew persawrus gorau – does dim syndod fod merched ifanc yn dy garu di. | |
Song | WelBeibl | 1:4 | Tyrd, cymer fi gyda ti; gad i ni frysio! Fy mrenin, dos â fi i dy ystafell wely. Gad i ni fwynhau a chael pleser; mae profi gwefr dy gyffyrddiad yn well na gwin. Mae'n ddigon teg fod merched ifanc yn dy garu di. | |
Song | WelBeibl | 1:5 | Y ferch wrth ferched Jerwsalem: Ferched Jerwsalem, mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd – yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, a hardd fel llenni palas Solomon. | |
Song | WelBeibl | 1:6 | Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi. Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi, a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd; ond methais ofalu amdana i fy hun. | |
Song | WelBeibl | 1:7 | Y ferch wrth ei chariad: Fy nghariad, dywed wrtho i, Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid? Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd? Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau. | |
Song | WelBeibl | 1:8 | Merched Jerwsalem wrth y ferch: O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod, dilyn olion traed y praidd a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid. | |
Song | WelBeibl | 1:9 | Y cariad wrth y ferch: F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf sy'n tynnu cerbydau'r Pharo. | |
Song | WelBeibl | 1:12 | Y ferch ifanc: Tra oedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely, roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr. | |
Song | WelBeibl | 1:15 | Y cariad wrth y ferch ifanc: O, rwyt mor hardd, f'anwylyd! O, rwyt mor hardd! Mae dy lygaid fel colomennod. | |
Song | WelBeibl | 1:16 | Y ferch wrth ei chariad: O, rwyt mor olygus, fy nghariad – ac mor hyfryd! Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpas yn gorchuddio'n gwely. | |