SONG OF SOLOMON
Chapter 8
| Song | WelBeibl | 8:1 | O na fyddet ti fel brawd bach i mi, wedi'i fagu ar fron fy mam; byddwn yn dy gusanu di'n agored, a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i. | |
| Song | WelBeibl | 8:2 | Af â ti i dŷ fy mam, yr un ddysgodd bopeth i mi. Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau, gwin melys fy mhomgranadau. | |
| Song | WelBeibl | 8:4 | Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch: Pam trio cyffroi cariad rhywiol cyn ei fod yn barod? | |
| Song | WelBeibl | 8:5 | Merched Jerwsalem: Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch yn pwyso ar fraich ei chariad? Y ferch: Cynhyrfais di dan y goeden afalau. Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu, a dyna ble cest ti dy eni. | |
| Song | WelBeibl | 8:6 | Gosod fi fel sêl ar dy galon, fel sêl-fodrwy ar dy law. Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth, ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd. Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt, fel tân sy'n llosgi'n wenfflam. | |
| Song | WelBeibl | 8:7 | All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad; all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd. Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano, byddai'n ddim byd ond testun sbort. | |
| Song | WelBeibl | 8:8 | Brodyr y ferch: Mae gynnon ni chwaer fach a'i bronnau heb dyfu. Beth wnawn ni i'w helpu pan gaiff ei haddo i'w phriodi? | |
| Song | WelBeibl | 8:9 | Os ydy hi'n saff fel wal, gallwn ei haddurno gyda thyrau arian! Os ydy hi fel drws, gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd! | |
| Song | WelBeibl | 8:10 | Y ferch: Roeddwn i fel wal, ond bellach mae fy mronnau fel tyrau, felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e. | |
| Song | WelBeibl | 8:11 | Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon, a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid. Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth. | |
| Song | WelBeibl | 8:12 | Mae'r mil o ddarnau arian i ti, Solomon, a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth; ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig. | |
| Song | WelBeibl | 8:13 | Y cariad: Ti sy'n aros yn y gerddi, mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais; ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed. | |