ZECHARIAH
Chapter 10
Zech | WelBeibl | 10:1 | Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law adeg tymor cawodydd y gwanwyn – yr ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd. Bydd yn anfon cawodydd trwm o law a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb. | |
Zech | WelBeibl | 10:2 | Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl, a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo – mae eu breuddwydion yn ffals, a'u cysur yn ddiwerth. Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid, heb fugail i'w hamddiffyn. | |
Zech | WelBeibl | 10:3 | “Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd, ac yn mynd i'w cosbi nhw – y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!” Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda, a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion. | |
Zech | WelBeibl | 10:4 | Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen, Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell, Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel, Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf. | |
Zech | WelBeibl | 10:5 | Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr yn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd. Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw, byddan nhw'n ymladd ac yn curo cafalri'r gelyn. | |
Zech | WelBeibl | 10:6 | “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf, ac achub pobl Israel. Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl a dangos trugaredd atyn nhw – bydd fel petawn i erioed wedi'u gwrthod nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw, a dw i'n mynd i'w hateb nhw. | |
Zech | WelBeibl | 10:7 | Bydd pobl Israel fel milwyr dewr yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi. Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny, ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD. | |
Zech | WelBeibl | 10:8 | Dw i'n mynd i chwibanu i'w casglu nhw at ei gilydd – dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd! Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen. | |
Zech | WelBeibl | 10:9 | Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd, byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell – a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl | |
Zech | WelBeibl | 10:10 | Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft, ac yn eu casglu nhw o Asyria; mynd â nhw i dir Gilead a Libanus, a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le. | |
Zech | WelBeibl | 10:11 | Byddan nhw'n croesi'r môr stormus, a bydd e'n tawelu'r tonnau. Bydd dŵr dwfn afon Nîl yn sychu, balchder Asyria'n cael ei dorri, a'r Aifft yn rheoli ddim mwy. | |