Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ECCLESIASTES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Prev Up Next
Chapter 1
Eccl WelBeibl 1:1  Geiriau yr Athro, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
Eccl WelBeibl 1:2  Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – Dydy e'n gwneud dim sens! Mae'r cwbl yn hollol absẃrd!
Eccl WelBeibl 1:3  Beth ydy'r pwynt gwneud unrhyw beth? Beth sydd i'w ennill o weithio'n galed yn y byd yma?
Eccl WelBeibl 1:4  Mae un genhedlaeth yn mynd ac un arall yn dod, ond dydy'r byd ddim yn newid o gwbl.
Eccl WelBeibl 1:5  Mae'r haul yn codi ac yn machlud, yna rhuthro'n ôl i'r un lle, i godi eto.
Eccl WelBeibl 1:6  Mae'r gwynt yn chwythu i'r de, ac yna'n troi i'r gogledd. Mae'n troi ac yn troi, cyn dod yn ôl i'r un lle yn y diwedd.
Eccl WelBeibl 1:7  Mae'r nentydd i gyd yn llifo i'r môr, ac eto dydy'r môr byth yn llawn; maen nhw'n mynd yn ôl i lifo o'r un lle eto.
Eccl WelBeibl 1:8  Mae'r cwbl yn un cylch diddiwedd! Dydy hi ddim posib dweud popeth. Dydy'r llygad byth wedi gweld digon, na'r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.
Eccl WelBeibl 1:9  Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol – Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ag o'r blaen; does dim byd newydd dan yr haul!
Eccl WelBeibl 1:10  Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth, “Edrychwch, dyma i chi beth newydd!” Ond mae wedi digwydd o'r blaen, ymhell yn ôl, o flaen ein hamser ni.
Eccl WelBeibl 1:11  Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd, a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawb aeth o'u blaenau nhw chwaith.
Eccl WelBeibl 1:12  Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem.
Eccl WelBeibl 1:13  Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy'n digwydd yn y byd. Mae'n waith caled, wedi'i roi gan Dduw i'r ddynoliaeth.
Eccl WelBeibl 1:14  Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i'r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 1:15  Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi'i blygu, na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna!
Eccl WelBeibl 1:16  Meddyliais, “Dw i'n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o mlaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.”
Eccl WelBeibl 1:17  Dyma fi'n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i'r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 1:18  Po fwya'r doethineb, mwya'r dolur; mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.