GALATIANS
Chapter 6
Gala | WelBeibl | 6:1 | Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth. | |
Gala | WelBeibl | 6:2 | Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn. | |
Gala | WelBeibl | 6:3 | Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain – dych chi'n neb mewn gwirionedd. | |
Gala | WelBeibl | 6:4 | Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi'i wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd. | |
Gala | WelBeibl | 6:6 | Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e. | |
Gala | WelBeibl | 6:7 | Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau. | |
Gala | WelBeibl | 6:8 | Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd. | |
Gala | WelBeibl | 6:9 | Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith. | |
Gala | WelBeibl | 6:10 | Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr. | |
Gala | WelBeibl | 6:12 | Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi'i wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub. | |
Gala | WelBeibl | 6:13 | Ond dydy'r rhai sydd wedi'u henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd drwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth! | |
Gala | WelBeibl | 6:14 | “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau. | |
Gala | WelBeibl | 6:15 | Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi'i newid yn llwyr – eich bod chi'n greadigaeth newydd! | |
Gala | WelBeibl | 6:16 | Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd! | |
Gala | WelBeibl | 6:17 | Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu! | |