GALATIANS
Chapter 1
Gala | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i'r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw. | |
Gala | WelBeibl | 1:2 | Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia: | |
Gala | WelBeibl | 1:3 | Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. | |
Gala | WelBeibl | 1:4 | Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni. | |
Gala | WelBeibl | 1:6 | Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun drwy haelioni'r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛. | |
Gala | WelBeibl | 1:7 | Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy'n eich drysu chi drwy ystumio'r newyddion da am y Meseia a'i wneud yn rhywbeth arall. | |
Gala | WelBeibl | 1:8 | Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno! | |
Gala | WelBeibl | 1:9 | Dw i wedi dweud o'r blaen a dw i'n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno! | |
Gala | WelBeibl | 1:10 | Felly, ydw i'n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i'n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i'r Meseia. | |
Gala | WelBeibl | 1:11 | Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi. | |
Gala | WelBeibl | 1:12 | Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir. | |
Gala | WelBeibl | 1:13 | Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i'n ei wneud pan o'n i'n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i'n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw. | |
Gala | WelBeibl | 1:14 | Rôn i'n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Rôn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni. | |
Gala | WelBeibl | 1:15 | Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e'n anhygoel o garedig tuag ata i drwy fy ngalw i'w ddilyn. Gwelodd yn dda | |
Gala | WelBeibl | 1:16 | i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi'r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un, | |
Gala | WelBeibl | 1:17 | na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i'n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus. | |
Gala | WelBeibl | 1:18 | Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno. | |
Gala | WelBeibl | 1:23 | ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae'r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae'n cyhoeddi'r newyddion da roedd e'n ceisio ei ddinistrio o'r blaen!” | |