II KINGS
Chapter 22
II K | WelBeibl | 22:1 | Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath). | |
II K | WelBeibl | 22:2 | Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl. | |
II K | WelBeibl | 22:3 | Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma fe'n anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD. | |
II K | WelBeibl | 22:4 | Dyma fe'n dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfri'r arian mae'r porthorion wedi'i gasglu gan y bobl pan maen nhw'n dod i'r deml. | |
II K | WelBeibl | 22:5 | Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio – | |
II K | WelBeibl | 22:6 | sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen – ac i brynu coed a cherrig wedi'u naddu'n barod i atgyweirio'r deml. | |
II K | WelBeibl | 22:7 | Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.” | |
II K | WelBeibl | 22:8 | Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen. | |
II K | WelBeibl | 22:9 | Yna dyma Shaffan yn mynd yn ôl i roi adroddiad i'r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi'i drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml.” | |
II K | WelBeibl | 22:10 | Yna meddai, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe'n ei darllen i'r brenin. | |
II K | WelBeibl | 22:11 | Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma'r brenin yn rhwygo'i ddillad. | |
II K | WelBeibl | 22:12 | Yna dyma fe'n galw am Chilceia'r offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol. | |
II K | WelBeibl | 22:13 | A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.” | |
II K | WelBeibl | 22:14 | Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi. | |
II K | WelBeibl | 22:15 | Yna dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i, | |
II K | WelBeibl | 22:16 | mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r sgrôl mae brenin Jwda wedi'i ddarllen yn dweud. | |
II K | WelBeibl | 22:17 | Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi'u gwneud.’ | |
II K | WelBeibl | 22:18 | Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi'i glywed: | |
II K | WelBeibl | 22:19 | “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma, ac y byddwn i'n eu gwneud nhw'n esiampl o bobl wedi'u melltithio; am i ti rwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |