JUDGES
Chapter 17
Judg | WelBeibl | 17:2 | Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di'n melltithio'r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae'r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i'n mynd i'w roi'n ôl i ti.” A dyma'i fam yn dweud wrtho, “Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD yn dy fendithio di, fy mab!” | |
Judg | WelBeibl | 17:3 | Daeth â'r arian yn ôl i'w fam, a dyma'i fam yn dweud, “Dw i am gysegru'r arian yma i'r ARGLWYDD. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd.” | |
Judg | WelBeibl | 17:4 | Pan roddodd yr arian i'w fam, dyma hi'n cymryd dau gant o ddarnau arian, a'u rhoi nhw i'r gof arian i wneud eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd. Yna dyma hi'n eu gosod nhw yn nhŷ Micha. | |
Judg | WelBeibl | 17:5 | Roedd gan Micha gysegr i addoli Duw yn ei dŷ. Roedd wedi gwneud effod ac eilun-ddelwau teuluol, ac wedi ordeinio un o'i feibion yn offeiriad. | |
Judg | WelBeibl | 17:6 | Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn. | |
Judg | WelBeibl | 17:7 | Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda – roedd yn perthyn i lwyth Lefi – ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda. | |
Judg | WelBeibl | 17:8 | Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha. | |
Judg | WelBeibl | 17:9 | Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?” Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.” | |
Judg | WelBeibl | 17:10 | A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.” | |