Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDGES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 18
Judg WelBeibl 18:1  Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Tua'r un adeg, roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel.
Judg WelBeibl 18:2  Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr o Sora ac Eshtaol i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.
Judg WelBeibl 18:3  Tra oedden nhw yno, dyma nhw'n nabod acen y dyn ifanc o lwyth Lefi, a mynd ato a dechrau'i holi, “Pwy ddaeth â ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”
Judg WelBeibl 18:4  A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi'i wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.
Judg WelBeibl 18:5  “Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”
Judg WelBeibl 18:6  A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r ARGLWYDD gyda chi bob cam o'r ffordd!”
Judg WelBeibl 18:7  Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.
Judg WelBeibl 18:8  Aeth y dynion yn ôl at eu pobl yn Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”
Judg WelBeibl 18:9  A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw.
Judg WelBeibl 18:10  Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”
Judg WelBeibl 18:11  Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro.
Judg WelBeibl 18:12  Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearîm yn Jwda. (Mae'r lle'n dal i gael ei alw'n Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearîm.)
Judg WelBeibl 18:13  Yna aethon nhw yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha.
Judg WelBeibl 18:14  A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod yma ac eilun-ddelwau teuluol, hefyd eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd? Beth dych chi am ei wneud?”
Judg WelBeibl 18:15  Felly dyma nhw'n galw heibio'r tŷ lle roedd y Lefiad ifanc yn byw (tŷ Micha), a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”
Judg WelBeibl 18:16  Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref.
Judg WelBeibl 18:17  Tra oedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi'i gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd.
Judg WelBeibl 18:18  Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”
Judg WelBeibl 18:19  A dyma nhw'n ei ateb, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Pa un sydd well – cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel neu i deulu un dyn?”
Judg WelBeibl 18:20  Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi'i gerfio, a mynd gyda nhw.
Judg WelBeibl 18:21  I ffwrdd â nhw, gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen.
Judg WelBeibl 18:22  Yna, pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau.
Judg WelBeibl 18:23  Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”
Judg WelBeibl 18:24  Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi'u gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”
Judg WelBeibl 18:25  Ond dyma ddynion Dan yn ei ateb, “Byddai'n syniad i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a gallen nhw ddod a dy ladd di a dy deulu!”
Judg WelBeibl 18:26  A dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith. Gwelodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, felly dyma fe'n troi am adre.
Judg WelBeibl 18:27  Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi'u gwneud. Doedd pobl Laish yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. Ond dyma filwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw.
Judg WelBeibl 18:28  Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw bobl eraill. Roedd y dref mewn dyffryn heb fod yn bell o Beth-rechof. Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno.
Judg WelBeibl 18:29  Cafodd y dref ei galw'n Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni.
Judg WelBeibl 18:30  Cymerodd bobl Dan yr eilun wedi'i gerfio a'i osod i fyny i'w addoli, a gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e'n dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud!
Judg WelBeibl 18:31  Bu llwyth Dan yn dal i addoli'r eilun gafodd ei wneud gan Micha yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.