JUDGES
Chapter 16
Judg | WelBeibl | 16:2 | Dyma bobl Gasa yn darganfod ei fod yno. Felly dyma nhw'n amgylchynu'r dref ac yn disgwyl amdano wrth y giatiau. Wnaethon nhw ddim mwy drwy'r nos, gan feddwl, “Lladdwn ni e pan fydd hi'n goleuo yn y bore!” | |
Judg | WelBeibl | 16:3 | Ond wnaeth Samson ddim aros drwy'r nos. Cododd ganol nos a gadael. Pan ddaeth at giatiau'r dref, tynnodd y drysau, y ddau bostyn a'r barrau a'r cwbl. Cododd nhw ar ei gefn, a'u cario i ben y bryn sydd i'r dwyrain o Hebron. | |
Judg | WelBeibl | 16:4 | Rywbryd wedyn, dyma Samson yn syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o'r enw Delila. | |
Judg | WelBeibl | 16:5 | Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a'i gam-drin, cei fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.” | |
Judg | WelBeibl | 16:6 | Felly dyma Delila'n gofyn i Samson, “Beth sy'n dy wneud di mor gryf? Sut allai rhywun dy rwymo di a dy drechu di?” | |
Judg | WelBeibl | 16:7 | A dyma Samson yn ateb, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” | |
Judg | WelBeibl | 16:8 | Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn rhoi saith llinyn bwa saeth newydd iddi, i rwymo Samson gyda nhw. | |
Judg | WelBeibl | 16:9 | Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n torri'r llinynnau bwa fel petaen nhw'n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf. | |
Judg | WelBeibl | 16:10 | Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n chwarae triciau ac wedi dweud celwydd wrtho i! Tyrd, dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” | |
Judg | WelBeibl | 16:11 | A dyma fe'n dweud wrthi, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda rhaffau newydd sbon, sydd erioed wedi cael eu defnyddio o'r blaen, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” | |
Judg | WelBeibl | 16:12 | Felly dyma Delila'n rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe'n torri'r rhaffau fel petaen nhw'n ddim ond edau! | |
Judg | WelBeibl | 16:13 | Meddai Delila wrth Samson, “Ti'n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dwed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.” A dyma fe'n dweud wrthi, “Taset ti'n gweu fy ngwallt i – y saith plethen – i mewn i'r brethyn ar ffrâm wau, a'i chloi gyda'r pìn, byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” | |
Judg | WelBeibl | 16:14 | Felly tra oedd e'n cysgu, dyma hi'n cymryd ei saith plethen e, eu gweu nhw i mewn i'r brethyn ar y ffrâm wau, a'i chloi gyda pìn. Wedyn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n deffro, ac yn rhwygo'r pìn allan o'r ffrâm a'i wallt o'r brethyn. | |
Judg | WelBeibl | 16:15 | A dyma Delila'n dweud wrtho, “Sut wyt ti'n gallu dweud ‘Dw i'n dy garu di,’ os wyt ti ddim yn trystio fi? Rwyt ti wedi bod yn chwarae triciau dair gwaith ac wedi gwrthod dweud wrtho i beth sy'n dy wneud di mor gryf.” | |
Judg | WelBeibl | 16:16 | Roedd hi'n dal ati i swnian a swnian ddydd ar ôl dydd, nes roedd Samson wedi cael llond bol. | |
Judg | WelBeibl | 16:17 | A dyma fe'n dweud popeth wrthi. “Dw i erioed wedi cael torri fy ngwallt. Ces fy rhoi yn Nasaread i Dduw cyn i mi gael fy ngeni. Petai fy ngwallt yn cael ei dorri, byddwn yn colli fy nghryfder. Byddwn i mor wan ag unrhyw ddyn arall.” | |
Judg | WelBeibl | 16:18 | Pan sylweddolodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach wrthi, dyma hi'n anfon am arweinwyr y Philistiaid. Ac meddai wrthyn nhw, “Dewch yn ôl, mae e wedi dweud wrtho i beth ydy'r gyfrinach.” Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd yn ôl ati, a'r arian i'w thalu hi gyda nhw. | |
Judg | WelBeibl | 16:19 | Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri'i wallt i gyd i ffwrdd – y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd. | |
Judg | WelBeibl | 16:20 | Dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe'n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o'r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi'i adael e.) | |
Judg | WelBeibl | 16:21 | Dyma'r Philistiaid yn ei ddal a thynnu'i lygaid allan. Yna dyma nhw'n mynd ag e i'r carchar yn Gasa. Yno, dyma nhw'n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd. | |
Judg | WelBeibl | 16:23 | Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio, “Ein duw ni, Dagon – mae wedi rhoi Samson ein gelyn, yn ein gafael!” | |
Judg | WelBeibl | 16:24 | Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi'n gelyn yn ein gafael; yr un oedd wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.” | |
Judg | WelBeibl | 16:25 | Yna, pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt, dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!” Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri. | |
Judg | WelBeibl | 16:26 | Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri'r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.” | |
Judg | WelBeibl | 16:27 | Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl am ei ben. | |
Judg | WelBeibl | 16:28 | A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi'n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro'r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!” | |
Judg | WelBeibl | 16:29 | Yna dyma fe'n rhoi'i ddwylo ar y ddau biler oedd yn cynnal to'r deml, a gwthio, un gyda'r llaw dde a'r llall gyda'r chwith. | |
Judg | WelBeibl | 16:30 | “Gad i mi farw gyda'r Philistiaid!” gwaeddodd. Roedd yn gwthio mor galed ag y medrai, a dyma'r adeilad yn syrthio ar ben arweinwyr y Philistiaid a phawb arall oedd y tu mewn. Lladdodd Samson fwy o Philistiaid pan fuodd e farw nag yn ystod gweddill ei fywyd i gyd! | |