JUDGES
Chapter 11
Judg | WelBeibl | 11:1 | Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha, oedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead. | |
Judg | WelBeibl | 11:2 | Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill hefyd – plant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu, dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Fyddi di'n etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.” | |
Judg | WelBeibl | 11:3 | Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt. | |
Judg | WelBeibl | 11:4 | Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel. | |
Judg | WelBeibl | 11:7 | “Ond roeddech chi'n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod chi mewn trwbwl!” | |
Judg | WelBeibl | 11:8 | “Mae'n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho. “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond cei fod yn bennaeth Gilead i gyd ar ôl hynny!” | |
Judg | WelBeibl | 11:9 | A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.” | |
Judg | WelBeibl | 11:10 | Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.” | |
Judg | WelBeibl | 11:11 | Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a chafodd ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. | |
Judg | WelBeibl | 11:12 | Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam roedd e'n ymosod ar y wlad. | |
Judg | WelBeibl | 11:13 | Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft – yr holl ffordd o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.” | |
Judg | WelBeibl | 11:16 | Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft, dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh. | |
Judg | WelBeibl | 11:17 | Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond wnaeth brenin Edom ddim gadael iddyn nhw. Gofynnodd Israel yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh. | |
Judg | WelBeibl | 11:18 | Wedyn dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (afon Arnon oedd ffin Moab). | |
Judg | WelBeibl | 11:19 | Ar ôl hynny, dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo fe, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’ | |
Judg | WelBeibl | 11:20 | Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi'i dir. Felly dyma fe'n galw'i fyddin at ei gilydd a chodi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel. | |
Judg | WelBeibl | 11:21 | Yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd – | |
Judg | WelBeibl | 11:22 | o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin. | |
Judg | WelBeibl | 11:23 | “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Wyt ti'n meddwl y gelli di ei gymryd oddi arnyn nhw? | |
Judg | WelBeibl | 11:24 | Cadw di beth mae dy dduw Chemosh wedi'i roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'n blaen ni. | |
Judg | WelBeibl | 11:25 | Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw? | |
Judg | WelBeibl | 11:26 | Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth afon Arnon. Pam dych chi ddim wedi'u cymryd nhw yn ôl cyn hyn? | |
Judg | WelBeibl | 11:27 | Na, dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sy'n dechrau'r rhyfel yma. Heddiw, bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!” | |
Judg | WelBeibl | 11:29 | Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n arwain ei fyddin drwy diroedd Gilead a Manasse, pasio drwy Mitspe yn Gilead, a mynd ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid. | |
Judg | WelBeibl | 11:30 | Dyma fe'n addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, | |
Judg | WelBeibl | 11:31 | gwna i roi i'r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr i Dduw.” | |
Judg | WelBeibl | 11:32 | Yna dyma Jefftha a'i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo. | |
Judg | WelBeibl | 11:33 | Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith, a hyd yn oed i Abel-ceramîm – dau ddeg o drefi i gyd. Dinistriodd nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi'u trechu gan Israel. | |
Judg | WelBeibl | 11:34 | Pan aeth Jefftha adre i Mitspa, pwy redodd allan i'w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi'n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall. | |
Judg | WelBeibl | 11:35 | Pan welodd hi, dyma fe'n rhwygo'i ddillad. “O na! Fy merch i. Mae hyn yn ofnadwy. Mae'n drychinebus. Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i'r ARGLWYDD, a does dim troi'n ôl.” | |
Judg | WelBeibl | 11:36 | Meddai ei ferch wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i'r ARGLWYDD, rhaid i ti gadw dy addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid. | |
Judg | WelBeibl | 11:37 | Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro'r bryniau gyda'm ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.” | |
Judg | WelBeibl | 11:38 | “Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro'r bryniau am ddeufis, yn galaru gyda'i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi. | |
Judg | WelBeibl | 11:39 | Yna ar ddiwedd y deufis, dyma hi'n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe'n gwneud beth roedd e wedi'i addo. Roedd hi'n dal yn wyryf pan fuodd hi farw. Daeth yn ddefod yn Israel | |