JUDGES
Chapter 8
Judg | WelBeibl | 8:1 | Ond yna dyma ddynion Effraim yn mynd at Gideon i gwyno, “Wnest ti ddim ein galw ni i helpu i ymladd yn erbyn y Midianiaid. Pam wnest ti'n diystyru ni fel yna?” Roedden nhw'n dadlau'n ffyrnig gydag e. | |
Judg | WelBeibl | 8:2 | Atebodd Gideon nhw drwy ddweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i. | |
Judg | WelBeibl | 8:3 | Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seëb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny, roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato. | |
Judg | WelBeibl | 8:4 | Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân. | |
Judg | WelBeibl | 8:5 | Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.” | |
Judg | WelBeibl | 8:6 | Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!” | |
Judg | WelBeibl | 8:7 | Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr ARGLWYDD wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.” | |
Judg | WelBeibl | 8:8 | Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth. | |
Judg | WelBeibl | 8:9 | Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!” | |
Judg | WelBeibl | 8:10 | Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!) | |
Judg | WelBeibl | 8:11 | Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna'n ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd. | |
Judg | WelBeibl | 8:12 | Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw. | |
Judg | WelBeibl | 8:14 | Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo – saith deg saith o ddynion i gyd. | |
Judg | WelBeibl | 8:15 | Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’” | |
Judg | WelBeibl | 8:16 | Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw. | |
Judg | WelBeibl | 8:17 | Aeth i Penuel wedyn, bwrw eu tŵr i lawr, a dienyddio arweinwyr y dref honno i gyd. | |
Judg | WelBeibl | 8:18 | Yna gofynnodd i Seba a Tsalmwna, “Dwedwch wrtho i am y dynion wnaethoch chi eu lladd yn Tabor.” A dyma nhw'n ateb, “Dynion digon tebyg i ti. Roedden nhw'n edrych fel petaen nhw'n feibion i frenhinoedd.” | |
Judg | WelBeibl | 8:19 | “Fy mrodyr i oedden nhw,” meddai Gideon. “Wir i chi! Petaech chi wedi gadael iddyn nhw fyw, byddwn i'n gadael i chi fyw.” | |
Judg | WelBeibl | 8:20 | Yna dyma Gideon yn dweud wrth Jether, ei fab hynaf, “Tyrd, lladd nhw!” Ond roedd Jether yn rhy ofnus i dynnu ei gleddyf – bachgen ifanc oedd e. | |
Judg | WelBeibl | 8:21 | A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod. | |
Judg | WelBeibl | 8:22 | Dyma ddynion Israel yn gofyn i Gideon fod yn frenin arnyn nhw. “Bydd yn frenin arnon ni – ti, a dy fab a dy ŵyr ar dy ôl. Rwyt ti wedi'n hachub ni o afael Midian.” | |
Judg | WelBeibl | 8:23 | Ond dyma Gideon yn dweud wrthyn nhw, “Na, fydda i ddim yn frenin arnoch chi, na'm mab i chwaith. Yr ARGLWYDD ydy'ch brenin chi.” | |
Judg | WelBeibl | 8:24 | Ond yna, ychwanegodd, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.) | |
Judg | WelBeibl | 8:25 | “Wrth gwrs,” medden nhw. A dyma nhw'n rhoi clogyn ar lawr, a dyma'r dynion i gyd yn taflu'r clustdlysau aur ar y clogyn. | |
Judg | WelBeibl | 8:26 | Roedd y clustdlysau yn pwyso bron dau ddeg cilogram, heb sôn am yr addurniadau siâp cilgant, y tlysau crog, y gwisgoedd brenhinol a'r cadwyni oedd am yddfau'r camelod. | |
Judg | WelBeibl | 8:27 | A dyma Gideon yn gwneud delw gydag effod arni a'i gosod yn Offra, y dref lle cafodd ei fagu. Ond dechreuodd pobl Israel ei haddoli, ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap! | |
Judg | WelBeibl | 8:28 | Dyna sut cafodd y Midianiaid eu trechu'n llwyr gan bobl Israel, a wnaethon nhw erioed godi i fod yn rym ar ôl hynny. Roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, tra oedd Gideon yn dal yn fyw. | |
Judg | WelBeibl | 8:31 | Cafodd fab arall drwy bartner iddo, oedd yn byw yn Sichem. Galwodd e yn Abimelech. | |
Judg | WelBeibl | 8:32 | Roedd Gideon yn hen iawn pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu ym medd ei dad Joas, yn Offra yr Abiesriaid. | |
Judg | WelBeibl | 8:33 | Ond ar ôl iddo farw, dyma bobl Israel yn puteinio drwy addoli delwau o Baal. Dyma nhw'n gwneud Baal-berith yn Dduw iddyn nhw'u hunain. | |
Judg | WelBeibl | 8:34 | Wnaeth pobl Israel ddim aros yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eu Duw, oedd wedi'u hachub nhw oddi wrth y gelynion oedd yn byw o'u cwmpas. | |