JUDGES
Chapter 19
Judg | WelBeibl | 19:1 | Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma fe'n cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner | |
Judg | WelBeibl | 19:2 | Ond roedd hi'n anffyddlon iddo, a dyma hi'n mynd yn ôl i fyw gyda'i theulu yn Bethlehem. Rhyw bedwar mis wedyn, | |
Judg | WelBeibl | 19:3 | dyma'r dyn yn mynd gyda'i was a dau asyn i geisio'i pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hi'n mynd ag e i'w chartref, a chafodd groeso brwd gan ei thad. | |
Judg | WelBeibl | 19:4 | Dyma'r tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos. | |
Judg | WelBeibl | 19:5 | Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma fe'n codi'n gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid i'w fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.” | |
Judg | WelBeibl | 19:6 | Felly dyma'r ddau ohonyn nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. Yna dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei amser da!” | |
Judg | WelBeibl | 19:7 | Roedd y dyn ar fin mynd, ond dyma'r tad yn pwyso arno a'i berswadio i aros noson arall. | |
Judg | WelBeibl | 19:8 | Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Dylet ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dyma'r ddau'n bwyta gyda'i gilydd eto. | |
Judg | WelBeibl | 19:9 | Rywbryd yn ystod y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma dad y ferch yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a chychwyn ar dy daith am adre.” | |
Judg | WelBeibl | 19:10 | Ond doedd y dyn ddim am wneud hynny. Dyma fe a'i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi'u cyfrwyo, a chychwyn ar eu taith. Dyma nhw'n cyrraedd Jebws (sef Jerwsalem). | |
Judg | WelBeibl | 19:11 | Erbyn hynny, roedd hi'n dechrau nosi, a dyma'r gwas yn gofyn i'w feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?” | |
Judg | WelBeibl | 19:12 | Dyma'r meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda phaganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea. | |
Judg | WelBeibl | 19:14 | Felly dyma nhw'n teithio yn eu blaenau. Erbyn iddyn nhw gyrraedd Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud. | |
Judg | WelBeibl | 19:15 | Felly dyma nhw'n penderfynu aros yno dros nos. Aethon nhw i mewn i'r dref, ac eistedd i lawr i orffwys yn y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i'w tŷ i aros dros nos. | |
Judg | WelBeibl | 19:16 | Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy'r dydd ac ar ei ffordd adre. Un o fryniau Effraim oedd e'n wreiddiol, ond roedd yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin. | |
Judg | WelBeibl | 19:17 | Pan welodd e'r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe'n gofyn iddo, “O ble dych chi'n dod, ac i ble dych chi'n mynd?” | |
Judg | WelBeibl | 19:18 | A dyma'r dyn o lwyth Lefi'n dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i'n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy'n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd adre. Ond does neb yn y dref yma wedi'n gwahodd ni i aros gyda nhw. | |
Judg | WelBeibl | 19:19 | Does arnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i'n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i'r tri ohonon ni – fi, dy forwyn, a'r bachgen ifanc sydd gyda ni.” | |
Judg | WelBeibl | 19:20 | “Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai'r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy'r nos!” | |
Judg | WelBeibl | 19:21 | Felly dyma fe'n mynd â nhw i'w dŷ, ac yn bwydo'r asynnod. Wedyn, ar ôl golchi eu traed dyma nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. | |
Judg | WelBeibl | 19:22 | Tra oedden nhw'n mwynhau'u hunain, dyma griw o rapsgaliwns o'r dref yn codi twrw, amgylchynu'r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw'n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy'n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!” | |
Judg | WelBeibl | 19:23 | Ond dyma'r dyn oedd piau'r tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydy'r dyn. Peidiwch bod mor amharchus! | |
Judg | WelBeibl | 19:24 | Mae gen i ferch sy'n wyryf, ac mae partner y dyn yma hefyd. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor amharchus i'r dyn yma!” | |
Judg | WelBeibl | 19:25 | Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma'r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw'n ei threisio hi a'i cham-drin hi drwy'r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw'i gollwng hi'n rhydd. | |
Judg | WelBeibl | 19:26 | Dim ond dechrau goleuo oedd hi pan gyrhaeddodd hi'n ôl i'r tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr tu allan i'r drws, a dyna lle buodd hi'n gorwedd nes oedd yr haul wedi codi. | |
Judg | WelBeibl | 19:27 | Pan gododd ei gŵr y bore hwnnw, roedd yn bwriadu cychwyn ar ei daith. Agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner yn gorwedd wrth ddrws y tŷ, a'i dwylo ar y trothwy. | |
Judg | WelBeibl | 19:28 | “Tyrd, dŷn ni'n mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma fe'n ei chodi ar ei asyn a mynd. | |
Judg | WelBeibl | 19:29 | Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gyllell a thorri corff ei bartner yn un deg dau darn. Yna dyma fe'n anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel. | |