JUDGES
Chapter 5
Judg | WelBeibl | 5:2 | Pan mae arweinwyr Israel yn arwain, a dynion yn gwirfoddoli'n frwd, Molwch yr ARGLWYDD! | |
Judg | WelBeibl | 5:3 | Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr! Dw i'n canu i'r ARGLWYDD! – ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel. | |
Judg | WelBeibl | 5:4 | O ARGLWYDD, pan adewaist Seir, a chroesi gwastatir Edom, dyma'r ddaear yn crynu, a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw. | |
Judg | WelBeibl | 5:5 | Crynodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai; o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel. | |
Judg | WelBeibl | 5:6 | Yn nyddiau Shamgar, mab Anat, ac eto yn nyddiau Jael, roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad. | |
Judg | WelBeibl | 5:7 | Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel, nes i ti, Debora, godi, fel mam yn amddiffyn Israel. | |
Judg | WelBeibl | 5:8 | Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd, a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau. Doedd dim tarian na gwaywffon i'w cael gan bedwar deg o unedau milwrol Israel. | |
Judg | WelBeibl | 5:9 | Ond molwch yr ARGLWYDD! Diolch am arweinwyr Israel, a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd. | |
Judg | WelBeibl | 5:10 | Gwrandwch bawb! – chi sy'n marchogaeth asennod gwynion, yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy, a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd. | |
Judg | WelBeibl | 5:11 | Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! – yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD, a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel. Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas! | |
Judg | WelBeibl | 5:12 | Deffra! deffra! Debora. Deffra! deffra! cana gân! Ar dy draed, Barac! Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam! | |
Judg | WelBeibl | 5:13 | A dyma'r dynion oedd ar gael yn dod i lawr at eu harweinwyr. Daeth pobl yr ARGLWYDD i ymuno â mi fel rhyfelwyr. | |
Judg | WelBeibl | 5:14 | Daeth rhai o Effraim (lle bu'r Amaleciaid yn byw), a milwyr Benjamin yn eu dilyn. Daeth capteiniaid i lawr o Machir, ac uchel-swyddogion o Sabulon. | |
Judg | WelBeibl | 5:15 | Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora, ac yn ufudd i orchymyn Barac, yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn. Ond roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud. | |
Judg | WelBeibl | 5:16 | Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau? Ai i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid? Oedden, roedd pobl llwyth Reuben yn methu penderfynu beth i'w wneud. | |
Judg | WelBeibl | 5:17 | A dyma bobl Gilead hefyd yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen Ac yna llwyth Dan – pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau? Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir – arhosodd yntau ger yr harbwr. | |
Judg | WelBeibl | 5:19 | Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn, yn Taanach wrth nentydd Megido. Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni. | |
Judg | WelBeibl | 5:21 | Dyma afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd; roedd yr afon yn eu hwynebu – afon Cison. O, saf ar yddfau'r rhai cryfion! | |
Judg | WelBeibl | 5:23 | “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD. “Melltithiwch bawb sy'n byw yno, am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD – ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.” | |
Judg | WelBeibl | 5:24 | Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu, sef gwraig Heber y Cenead. Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy nag unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell. | |
Judg | WelBeibl | 5:26 | Gyda peg pabell yn ei llaw chwith a morthwyl yn y llaw dde, trawodd Sisera a malu ei benglog – bwrw'r peg drwy ochr ei ben! | |
Judg | WelBeibl | 5:27 | Syrthiodd wrth ei thraed. Syrthio, a gorwedd yn llipa. Gorwedd ar lawr wrth ei thraed, yn llipa a difywyd – yn farw! | |
Judg | WelBeibl | 5:28 | Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl; mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid: “Pam mae e mor hir yn dod nôl? Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?” | |
Judg | WelBeibl | 5:30 | “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau, a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio! Dillad lliwgar, hardd i Sisera; dillad gwych o ddefnydd wedi'i frodio, a sgarff neu ddau i'w gwisgo!” | |