JUDGES
Chapter 9
Judg | WelBeibl | 9:1 | Aeth Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd, | |
Judg | WelBeibl | 9:2 | “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn drwy waed i chi.’” | |
Judg | WelBeibl | 9:3 | Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi am ei fod yn perthyn drwy waed iddyn nhw. | |
Judg | WelBeibl | 9:4 | Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A defnyddiodd Abimelech yr arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn. | |
Judg | WelBeibl | 9:5 | Aeth yn ôl i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio. | |
Judg | WelBeibl | 9:6 | Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin. | |
Judg | WelBeibl | 9:7 | Pan glywodd Jotham am hyn, dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim a gweiddi'n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem – os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi. | |
Judg | WelBeibl | 9:8 | Aeth y coed allan i ddewis brenin. A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd, ‘Bydd yn frenin arnon ni.’ | |
Judg | WelBeibl | 9:9 | Ond atebodd y goeden olewydd, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew, sy'n bendithio Duw a dynion, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’ | |
Judg | WelBeibl | 9:11 | Ond atebodd y goeden ffigys, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys, fy ffrwyth hyfryd, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’ | |
Judg | WelBeibl | 9:13 | Ond atebodd y winwydden, ‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin, sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus, er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’ | |
Judg | WelBeibl | 9:15 | A dyma'r berth ddrain yn ateb, ‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin, dewch i gysgodi oddi tanaf fi. Os na wnewch chi, bydda i'n cynnau tân fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’ | |
Judg | WelBeibl | 9:16 | “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo – drwy wneud Abimelech yn frenin? Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo! | |
Judg | WelBeibl | 9:17 | “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo – drwy wneud Abimelech yn frenin? Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo! | |
Judg | WelBeibl | 9:18 | Dych chi wedi'i fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg. A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi. | |
Judg | WelBeibl | 9:19 | Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus. | |
Judg | WelBeibl | 9:20 | Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi, arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!” | |
Judg | WelBeibl | 9:23 | anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhyngddo fe ac arweinwyr Sichem. Dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn. | |
Judg | WelBeibl | 9:24 | Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – y saith deg ohonyn nhw. | |
Judg | WelBeibl | 9:25 | Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. A dyma Abimelech yn clywed am y peth. | |
Judg | WelBeibl | 9:26 | Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw. | |
Judg | WelBeibl | 9:27 | Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a chynnal parti. Dyna lle roedden nhw, yn rhegi Abimelech wrth fwynhau gwledda ac yfed. | |
Judg | WelBeibl | 9:28 | “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi'i benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech? | |
Judg | WelBeibl | 9:29 | Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’” | |
Judg | WelBeibl | 9:30 | Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi'i ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog. | |
Judg | WelBeibl | 9:31 | Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di. | |
Judg | WelBeibl | 9:33 | Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.” | |
Judg | WelBeibl | 9:34 | Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol. | |
Judg | WelBeibl | 9:35 | Y bore wedyn, roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, a daeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg. | |
Judg | WelBeibl | 9:36 | Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn ei ateb, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld – mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.” | |
Judg | WelBeibl | 9:37 | Ond dyma Gaal yn dweud eto, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o Tabbwr-erets, ac mae yna griw arall yn dod o gyfeiriad Derwen y Dewiniaid.” | |
Judg | WelBeibl | 9:38 | Dyma Sebwl yn dweud wrtho, “Ble mae'r geg fawr yna nawr? Ti ddwedodd, ‘Pwy ydy Abimelech i ni fod yn weision bach iddo?’ Wel, dyma'r dynion roeddet ti'n eu bychanu! Dos allan i ymladd gyda nhw!” | |
Judg | WelBeibl | 9:40 | Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref. | |
Judg | WelBeibl | 9:41 | Dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem. | |
Judg | WelBeibl | 9:42 | Ond y diwrnod wedyn, dyma bobl Sichem yn dod allan eto. Pan glywodd Abimelech am y peth, | |
Judg | WelBeibl | 9:43 | dyma fe'n rhannu'i fyddin yn dair uned filwrol, a pharatoi i ymosod. Yna wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw. | |
Judg | WelBeibl | 9:44 | Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, a dyma'r ddwy uned arall yn ymosod ar y bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw. | |
Judg | WelBeibl | 9:45 | Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r adeiladau i gyd a gwasgaru halen dros y safle. | |
Judg | WelBeibl | 9:46 | Pan glywodd arweinwyr Tŵr Shechem beth oedd wedi digwydd, aethon nhw i guddio yn y siambr dan ddaear yn nheml El-berith. | |
Judg | WelBeibl | 9:48 | Felly dyma fe'n mynd â'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Torrodd gangen oddi ar goeden gyda bwyell a'i rhoi ar ei ysgwydd, a dweud wrth ei filwyr, “Brysiwch! Gwnewch chithau'r un peth.” | |
Judg | WelBeibl | 9:49 | Dyma nhw'n gwneud hynny, a mynd ar ei ôl. Yna dyma nhw'n gosod y canghennau yn erbyn waliau'r gaer, a'u rhoi ar dân. Cafodd pawb oedd yn byw yn Tŵr Shechem eu lladd – tua mil o ddynion a merched. | |
Judg | WelBeibl | 9:51 | Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref, a dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr. | |
Judg | WelBeibl | 9:54 | Galwodd ar y dyn ifanc oedd yn cario'i arfau, “Tyn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw. | |
Judg | WelBeibl | 9:55 | Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw, dyma nhw i gyd yn mynd adre. | |
Judg | WelBeibl | 9:56 | Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu'i dad drwy ladd ei saith deg hanner brawd. | |