REVELATION OF JOHN
Chapter 8
Reve | WelBeibl | 8:1 | Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr. | |
Reve | WelBeibl | 8:3 | Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl. | |
Reve | WelBeibl | 8:5 | Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn. | |
Reve | WelBeibl | 8:7 | Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi'i gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear. Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd. | |
Reve | WelBeibl | 8:8 | Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed, | |
Reve | WelBeibl | 8:9 | lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr, a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau. | |
Reve | WelBeibl | 8:10 | Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr. | |
Reve | WelBeibl | 8:11 | ‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw. | |
Reve | WelBeibl | 8:12 | Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith. | |