Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
SONG OF SOLOMON
1 2 3 4 5 6 7 8
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
Song WelBeibl 2:1  Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron ydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.
Song WelBeibl 2:2  Y cariad wrth y ferch: F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraill rwyt ti fel lili yng nghanol mieri.
Song WelBeibl 2:3  Y ferch wrth ei chariad: Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraill rwyt ti fel coeden afalau yng nghanol y goedwig. Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod, ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.
Song WelBeibl 2:4  Y ferch: Aeth â fi i mewn i'r gwindy a'm gorchuddio â'i gariad.
Song WelBeibl 2:5  Helpwch fi! Adfywiwch fi gyda ffrwythau melys ac afalau – dw i'n glaf o gariad.
Song WelBeibl 2:6  Mae ei law chwith dan fy mhen, a'i law dde yn fy anwesu.
Song WelBeibl 2:7  Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch o flaen y gasél a'r ewig gwyllt: Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol nes mae'n barod.
Song WelBeibl 2:8  Y ferch: Ust! Fy nghariad sydd yna! Edrychwch! Dyma fe'n dod, yn llamu dros y mynyddoedd ac yn neidio dros y bryniau
Song WelBeibl 2:9  fel gasél neu garw ifanc. Mae yma! Yr ochr arall i'r wal! Mae'n edrych drwy'r ffenest ac yn sbecian drwy'r dellt.
Song WelBeibl 2:10  Mae'n galw arna i: “F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.
Song WelBeibl 2:11  Edrych! Mae'r gaeaf drosodd; mae'r glaw trwm wedi hen fynd.
Song WelBeibl 2:12  Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman, y tymor pan mae'r cread yn canu a cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.
Song WelBeibl 2:13  Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu a'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd. F'anwylyd, tyrd! Gad i ni fynd, fy un hardd.”
Song WelBeibl 2:14  Y cariad: Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd o'r golwg yn holltau'r graig a'r ogofâu ar y clogwyni! Gad i mi dy weld a chlywed dy lais; mae sŵn dy lais mor swynol, a'th olwg mor ddeniadol.
Song WelBeibl 2:15  Y ferch: Daliwch lwynogod, y llwynogod bach sydd am ddifetha gwinllannoedd – a'n gwinllannoedd yn blodeuo.
Song WelBeibl 2:16  Fi piau nghariad, a fe piau fi; mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
Song WelBeibl 2:17  Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio ac i gysgodion y nos ddiflannu – bydd fel gasél neu garw ifanc yn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog.