Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ZEPHANIAH
1 2 3
Prev Up Next
Chapter 3
Zeph WelBeibl 3:1  Mae ar ben ar y ddinas ystyfnig, lygredig, sy'n gormesu ei phobl!
Zeph WelBeibl 3:2  Mae'n gwrthod gwrando ar neb, na derbyn cyngor. Dydy hi ddim yn trystio'r ARGLWYDD nac yn gofyn am arweiniad ei Duw.
Zeph WelBeibl 3:3  Mae ei harweinwyr fel llewod yn rhuo yn ei chanol. Mae ei swyddogion fel bleiddiaid yn y nos yn lladd eu prae a gadael dim ar ôl erbyn y bore.
Zeph WelBeibl 3:4  Mae ei phroffwydi'n brolio ac yn twyllo. Mae ei hoffeiriaid yn llygru beth sy'n sanctaidd, ac yn torri Cyfraith Duw.
Zeph WelBeibl 3:5  Ac eto mae'r ARGLWYDD cyfiawn yn ei chanol. Dydy e'n gwneud dim sy'n annheg. Mae ei gyfiawnder i'w weld bob bore, mae mor amlwg a golau dydd. Ond does gan y rhai drwg ddim cywilydd.
Zeph WelBeibl 3:6  “Dw i wedi dinistrio gwledydd eraill a chwalu eu tyrau amddiffyn. Mae eu strydoedd yn wag heb neb yn cerdded arnyn nhw. Mae eu dinasoedd wedi'u difa. Does neb ar ôl, yr un enaid byw.
Zeph WelBeibl 3:7  Meddyliais, ‘Byddi'n fy mharchu i nawr, a derbyn y cyngor dw i'n ei roi i ti! A fydd dim rhaid i dy dai gael eu dinistrio gan y gosb rôn i wedi'i fwriadu.’ Ond na, roedden nhw'n dal ar frys i wneud popeth sydd o'i le.”
Zeph WelBeibl 3:8  Felly mae'r ARGLWYDD yn datgan, “Arhoswch chi amdana i! Mae'r diwrnod yn dod pan fydda i'n codi ac yn ymosod. Dw i'n bwriadu casglu'r cenhedloedd at ei gilydd a thywallt fy nigofaint ffyrnig arnyn nhw. Bydd fy nicter fel tân yn difa'r ddaear!”
Zeph WelBeibl 3:9  “Yna bydda i'n rhoi geiriau glân i'r holl bobloedd, iddyn nhw i gyd addoli'r ARGLWYDD. A byddan nhw i gyd yn ufudd gyda'i gilydd.
Zeph WelBeibl 3:10  O'r tu draw i afonydd pell dwyrain Affrica bydd y rhai sy'n gweddïo arna i yn dod ag anrhegion i mi.
Zeph WelBeibl 3:11  Bryd hynny, Jerwsalem, fydd neb yn codi cywilydd arnat ti am yr holl bethau ti wedi'i gwneud yn fy erbyn i. Bydda i'n cael gwared â'r rhai balch sy'n brolio. Fydd neb yn ymffrostio ar fy mynydd cysegredig i.
Zeph WelBeibl 3:12  Bydda i'n gadael y rhai tlawd gafodd eu cam-drin yn dy ganol, a byddan nhw'n trystio'r ARGLWYDD.
Zeph WelBeibl 3:13  Fydd y rhai sydd ar ôl o Israel yn gwneud dim byd drwg, yn dweud dim celwydd nac yn twyllo. Byddan nhw fel defaid yn pori'n ddiogel ac yn gorwedd heb neb i'w dychryn.”
Zeph WelBeibl 3:14  Canwch yn llawen, bobl Seion! Gwaeddwch yn uchel bobl Israel! Byddwch lawen a gorfoleddwch â'ch holl galon, bobl Jerwsalem!
Zeph WelBeibl 3:15  Mae'r ARGLWYDD wedi cymryd y gosb i ffwrdd, ac yn cael gwared â dy elynion di. Bydd Brenin Israel yn dy ganol a fydd dim rhaid i ti fod ag ofn.
Zeph WelBeibl 3:16  Yr adeg hynny byddan nhw'n dweud wrth Jerwsalem, “Paid bod ag ofn, Seion! Paid anobeithio.
Zeph WelBeibl 3:17  Mae'r ARGLWYDD dy Dduw gyda ti, fel arwr i dy achub di. Bydd e wrth ei fodd gyda ti. Bydd yn dy fwytho gyda'i gariad, ac yn dathlu a chanu'n llawen am dy fod yn ôl.”
Zeph WelBeibl 3:18  “Bydda i'n casglu'r rhai sy'n galaru am y gwyliau, y rhai hynny mae'r cywilydd wedi bod yn faich arnyn nhw.
Zeph WelBeibl 3:19  Bryd hynny bydda i'n delio gyda'r rhai wnaeth dy gam-drin. Bydda i'n achub y defaid cloff ac yn casglu'r rhai gafodd eu gyrru ar chwâl. Bydd pobl drwy'r byd yn gwybod, ac yn eu canmol yn lle codi cywilydd arnyn nhw.
Zeph WelBeibl 3:20  Bryd hynny bydda i'n dod â chi'n ôl; bydda i'n eich casglu chi at eich gilydd. Byddwch chi'n enwog drwy'r byd i gyd, pan fydda i'n gwneud i chi lwyddo eto,” —meddai'r ARGLWYDD.