Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ECCLESIASTES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
Eccl WelBeibl 2:1  Meddyliais, “Reit, dw i'n mynd i weld beth sydd gan bleser i'w gynnig!” Ond wedyn dod i'r casgliad mai nid dyna'r ateb chwaith.
Eccl WelBeibl 2:2  “Mae byw dim ond i gael hwyl a sbri yn hurt!” meddwn i. Ac am fyw i bleser, dwedais, “Beth ydy'r pwynt?”
Eccl WelBeibl 2:3  Dyma fi'n ceisio gweld fyddai codi'r galon gyda gwin, nes dechrau actio'r ffŵl, yn ateb. Ceisio bod yn ddoeth oeddwn i. Rôn i eisiau gweld a oedd hynny'n beth da i bobl ei wneud yn yr amser byr sydd ganddyn nhw ar y ddaear.
Eccl WelBeibl 2:4  Wedyn dyma fi'n casglu mwy a mwy o eiddo. Dyma fi'n adeiladu tai i mi fy hun, ac yn plannu gwinllannoedd.
Eccl WelBeibl 2:5  Dyma fi'n cynllunio gerddi a pharciau brenhinol i mi fy hun, ac yn plannu pob math o goed ffrwythau ynddyn nhw.
Eccl WelBeibl 2:6  Yna adeiladu pyllau dŵr – digon i ddyfrio'r holl goed oedd gen i'n tyfu.
Eccl WelBeibl 2:7  Prynais weithwyr i mi fy hun – dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi'u geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nag unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o mlaen i.
Eccl WelBeibl 2:8  Dyma fi'n casglu arian ac aur i mi fy hun hefyd, a thrysorau gwerthfawr brenhinoedd a thaleithiau eraill. Roedd gen i gantorion (dynion a merched) i'm difyrru, a digonedd o bleser rhywiol – harîm o ferched hardd.
Eccl WelBeibl 2:9  Oedd, roedd gen i fwy o gyfoeth nag unrhyw un oedd wedi bod o mlaen i yn Jerwsalem. Ond yn dal i geisio bod yn ddoeth.
Eccl WelBeibl 2:10  Rôn i'n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Rôn i'n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Rôn i'n mwynhau'r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech.
Eccl WelBeibl 2:11  Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi'i gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i – a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?
Eccl WelBeibl 2:12  Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi'i gyflawni eisoes! Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud.
Eccl WelBeibl 2:13  Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch.
Eccl WelBeibl 2:14  “Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd, ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.” Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall.
Eccl WelBeibl 2:15  Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens.
Eccl WelBeibl 2:16  Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl.
Eccl WelBeibl 2:17  Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.
Eccl WelBeibl 2:18  Rôn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i.
Eccl WelBeibl 2:19  A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw'n ddoeth neu'n ffŵl? Ond bydd e'n dal i reoli'r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i'w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 2:20  Rôn i'n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi'i gyflawni ar y ddaear.
Eccl WelBeibl 2:21  Mae rhywun yn gweithio'n galed ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg.
Eccl WelBeibl 2:22  Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd?
Eccl WelBeibl 2:23  Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy'r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e'n gwneud dim sens!
Eccl WelBeibl 2:24  Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith. A dyma fi'n sylweddoli mai Duw sy'n rhoi hyn i gyd i ni.
Eccl WelBeibl 2:25  Heb Dduw does neb yn gallu bwyta na mwynhau bywyd go iawn.
Eccl WelBeibl 2:26  Duw sy'n rhoi'r doethineb a'r gallu i fwynhau ei hun i'r sawl sy'n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae'r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael – a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i'w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae'n anodd gwneud sens o'r cwbl – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.