I CORINTHIANS
Chapter 4
I Co | WelBeibl | 4:1 | Dylech chi'n hystyried ni fel gweision i'r Meseia – gweision sydd â'r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw. | |
I Co | WelBeibl | 4:2 | Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon. | |
I Co | WelBeibl | 4:3 | Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed! | |
I Co | WelBeibl | 4:4 | Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri. | |
I Co | WelBeibl | 4:5 | Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw. | |
I Co | WelBeibl | 4:6 | Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn. | |
I Co | WelBeibl | 4:7 | Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi'i dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? – fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth! | |
I Co | WelBeibl | 4:8 | Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas – a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi. | |
I Co | WelBeibl | 4:9 | Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi'u gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn – y rhai sydd wedi'n condemnio i farw yn yr arena. Dŷn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd – pobl ac angylion. | |
I Co | WelBeibl | 4:10 | Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort! | |
I Co | WelBeibl | 4:11 | Hyd heddiw dŷn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dŷn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi. | |
I Co | WelBeibl | 4:12 | Dŷn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dŷn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dŷn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni. | |
I Co | WelBeibl | 4:13 | Dŷn ni'n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dŷn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu'n ddim byd ond baw! | |
I Co | WelBeibl | 4:14 | Dim ceisio creu embaras i chi ydw i wrth ddweud hyn i gyd, ond eich rhybuddio chi. Dych chi fel plant annwyl i mi! | |
I Co | WelBeibl | 4:15 | Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai'n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi'r newyddion da i chi. | |
I Co | WelBeibl | 4:17 | Dyna pam dw i'n anfon Timotheus atoch chi – mae e'n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i'n gallu dibynnu'n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i'n ymddwyn a beth dw i'n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i'n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i'n mynd. | |
I Co | WelBeibl | 4:18 | Ond mae rhai pobl, mor siŵr ohonyn nhw eu hunain, yn meddwl na fydda i'n ymweld â chi byth eto. | |
I Co | WelBeibl | 4:19 | Ond dw i yn dod – a hynny'n fuan, os Duw a'i myn. Byddwn ni'n gweld wedyn os mai dim ond ceg fawr sydd ganddyn nhw, neu oes ganddyn nhw'r gallu i wneud rhywbeth! | |
I Co | WelBeibl | 4:20 | Dim beth mae pobl yn ei ddweud, ond beth allan nhw ei wneud sy'n dangos Duw'n teyrnasu. | |