I CORINTHIANS
Chapter 12
I Co | WelBeibl | 12:2 | Pan oeddech chi'n baganiaid, roeddech yn cael eich dylanwadu a'ch camarwain gan eilun-dduwiau mud. | |
I Co | WelBeibl | 12:3 | Felly dw i am i chi wybod beth sy'n dod o Dduw a beth sydd ddim. Does neb sy'n siarad dan ddylanwad Ysbryd Glân Duw yn dweud, “Mae Iesu yn felltith!” A does neb yn gallu dweud, “Iesu ydy'r Arglwydd,” ond drwy'r Ysbryd Glân. | |
I Co | WelBeibl | 12:6 | Mae Duw yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol drwy wahanol bobl, ond yr un Duw sy'n cyflawni'r cwbl ynddyn nhw i gyd. | |
I Co | WelBeibl | 12:8 | Felly mae'r Ysbryd yn rhoi gair o ddoethineb i un person. Mae person arall yn cael gair o wybodaeth, drwy'r un Ysbryd. | |
I Co | WelBeibl | 12:9 | Mae un arall yn cael ffydd, drwy'r un Ysbryd, ac un arall ddoniau i iacháu, drwy'r un Ysbryd. | |
I Co | WelBeibl | 12:10 | Wedyn mae rhywun arall yn cael galluoedd gwyrthiol, neu broffwydoliaeth, neu'r gallu i ddweud ble mae'r Ysbryd wir ar waith. Mae un arall yn cael y gallu i siarad ieithoedd dieithr, a rhywun arall y gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud yn yr ieithoedd hynny. | |
I Co | WelBeibl | 12:11 | Yr un Ysbryd sydd ar waith drwyddyn nhw i gyd, ac yn penderfynu beth i'w roi i bob un. | |
I Co | WelBeibl | 12:12 | Mae'r corff yn uned er bod iddo lawer o rannau gwahanol, ac mae'r holl rannau gwahanol gyda'i gilydd yn gwneud un corff. Dyna'n union sut mae hi gyda phobl y Meseia. | |
I Co | WelBeibl | 12:13 | Cawson ni i gyd ein bedyddio gan yr un Ysbryd i berthyn i un corff – yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill, caethweision a dinasyddion rhydd. Cafodd pob un ohonon ni yfed yn helaeth o'r un Ysbryd. | |
I Co | WelBeibl | 12:15 | Petai troed yn dweud, “Am nad ydw i'n llaw dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai'r droed honno yn peidio bod yn rhan o'r corff? Wrth gwrs ddim! | |
I Co | WelBeibl | 12:16 | Neu petai clust yn dweud, “Am nad ydw i'n llygad dw i ddim yn rhan o'r corff,” fyddai hi'n peidio bod yn rhan o'r corff wedyn? Na! | |
I Co | WelBeibl | 12:17 | Fyddai'r corff ddim yn gallu clywed petai'n ddim byd ond llygaid! A phetai'n ddim byd ond clustiau, sut fyddai'n gallu arogli? | |
I Co | WelBeibl | 12:18 | Duw sydd wedi gwneud y corff, a rhoi pob rhan yn ei le, yn union fel roedd e'n gweld yn dda. | |
I Co | WelBeibl | 12:21 | Dydy'r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di!” A dydy'r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi!” | |
I Co | WelBeibl | 12:22 | Yn hollol fel arall – mae'r rhannau hynny o'r corff sy'n ymddangos lleia pwysig yn gwbl hanfodol! | |
I Co | WelBeibl | 12:23 | Mae angen dangos gofal arbennig am y rhannau hynny sydd ddim yn amlwg. Mae rhannau preifat y corff yn cael gwisg i'w cuddio o olwg pobl, er mwyn bod yn weddus. | |
I Co | WelBeibl | 12:24 | Does dim angen triniaeth sbesial felly ar y rhannau sy'n amlwg! Ac mae Duw wedi rhoi'r eglwys at ei gilydd fel corff, ac wedi dangos gofal arbennig am y rhannau oedd yn cael dim parch. | |
I Co | WelBeibl | 12:25 | Ei fwriad oedd fod dim rhaniadau i fod yn y corff – a bod pob rhan i ddangos yr un gofal am ei gilydd. | |
I Co | WelBeibl | 12:26 | Felly, os ydy un rhan o'r corff yn dioddef, mae'r corff i gyd yn dioddef; neu os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae'r corff i gyd yn rhannu'r llawenydd. | |
I Co | WelBeibl | 12:27 | Chi gyda'ch gilydd ydy corff y Meseia, ac mae pob unigolyn yn rhan o'r corff hwnnw. | |
I Co | WelBeibl | 12:28 | Yn ei eglwys mae Duw wedi penodi ei gynrychiolwyr yn gyntaf, yn ail proffwydi, ac yn drydydd athrawon, yna rhai sy'n gwneud gwyrthiau, rhai sy'n cael doniau i iacháu, rhai sy'n helpu eraill, rhai sy'n rhoi cyngor ac arweiniad, a rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr. | |
I Co | WelBeibl | 12:29 | Ydy pawb yn gynrychiolwyr personol i'r Meseia? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn gwneud gwyrthiau? | |
I Co | WelBeibl | 12:30 | Ydy pawb yn cael doniau i iacháu? Ydy pawb yn siarad ieithoedd dieithr? Ydy pawb yn gallu esbonio beth sy'n cael ei ddweud? Wrth gwrs ddim! | |