Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CORINTHIANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 14
I Co WelBeibl 14:1  Rhowch y flaenoriaeth i gariad, ond ceisiwch yn frwd beth sy'n dod o'r Ysbryd, yn arbennig y ddawn o broffwydo.
I Co WelBeibl 14:2  Siarad â Duw mae rhywun sy'n siarad ieithoedd dieithr, nid siarad â phobl. Does neb arall yn deall beth sy'n cael ei ddweud, am mai pethau dirgel sy'n cael eu dweud yn yr Ysbryd.
I Co WelBeibl 14:3  Ond mae'r person sy'n proffwydo, ar y llaw arall, yn siarad gyda phobl. Mae'n eu helpu nhw i dyfu'n ysbrydol, yn eu hannog nhw ac yn eu cysuro nhw.
I Co WelBeibl 14:4  Mae siarad ieithoedd dieithr yn help i'r un sy'n siarad, ond mae proffwydo yn helpu cymdeithas yr eglwys.
I Co WelBeibl 14:5  Dw i'n falch dros bob un ohonoch chi sy'n gallu siarad mewn ieithoedd dieithr, ond byddai'n well gen i eich cael chi i broffwydo. Am eu bod nhw'n helpu'r eglwys, mae'r rhai sy'n proffwydo yn gwneud peth gwell na'r rhai sy'n siarad mewn ieithoedd dieithr (oni bai fod rhywun yn esbonio beth sy'n cael ei ddweud!)
I Co WelBeibl 14:6  Ffrindiau annwyl, taswn i wedi dod atoch chi yn siarad mewn ieithoedd dieithr, fyddai hynny'n dda i ddim. Byddai'n llawer gwell i mi rannu rhywbeth sydd wedi'i ddatguddio i mi, neu air o wybodaeth neu broffwydoliaeth neu neges fydd yn dysgu rhywbeth i chi.
I Co WelBeibl 14:7  Mae'r un fath ag offerynnau cerdd: mae ffliwt neu delyn yn gallu gwneud sŵn, ond sut mae disgwyl i rywun nabod yr alaw oni bai fod nodau gwahanol?
I Co WelBeibl 14:8  Neu meddyliwch am utgorn yn canu – os ydy'r sain ddim yn glir, pwy sy'n mynd i baratoi i fynd i ryfel?
I Co WelBeibl 14:9  Mae'r un fath gyda chi. Os ydy beth dych chi'n ei ddweud ddim yn gwneud sens, pa obaith sydd i unrhyw un ddeall? Byddwch yn siarad â'r gwynt!
I Co WelBeibl 14:10  Mae pob math o ieithoedd yn y byd, ac maen nhw i gyd yn gwneud sens i rywun.
I Co WelBeibl 14:11  Ond os ydw i ddim yn deall beth mae rhywun yn ei ddweud, dw i a'r un sy'n siarad yn estroniaid i'n gilydd!
I Co WelBeibl 14:12  Dyna fel mae hi gyda chi! Os dych chi'n frwd i brofi beth mae'r Ysbryd yn ei roi, gofynnwch am fwy o'r pethau hynny sy'n adeiladu cymdeithas yr eglwys.
I Co WelBeibl 14:13  Felly, dylai'r person sy'n siarad mewn iaith ddieithr weddïo am y gallu i esbonio beth mae'n ei ddweud.
I Co WelBeibl 14:14  Os dw i'n siarad mewn iaith ddieithr, dw i'n gweddïo'n ddwfn yn fy ysbryd, ond mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
I Co WelBeibl 14:15  Felly beth wna i? Gweddïo o ddyfnder fy ysbryd, a gweddïo gyda'r meddwl hefyd; canu mawl o waelod fy ysbryd, a chanu mawl gyda'r meddwl hefyd.
I Co WelBeibl 14:16  Os mai dim ond yn dy ysbryd rwyt ti'n moli Duw, sut mae pobl eraill i fod i ddeall a dweud “Amen” i beth rwyt ti'n diolch amdano? – dŷn nhw ddim yn gwybod beth rwyt ti'n ddweud!
I Co WelBeibl 14:17  Mae'n siŵr bod dy ddiolch di'n ddigon didwyll, ond dydy e'n gwneud dim lles i neb arall.
I Co WelBeibl 14:18  Mae gen i'r ddawn i siarad ieithoedd dieithr fwy na neb ohonoch chi, diolch i Dduw.
I Co WelBeibl 14:19  Ond lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn yr eglwys byddai'n well gen i siarad pum gair mae pobl yn eu deall, er mwyn dysgu rhywbeth iddyn nhw, na miloedd ar filoedd o eiriau mewn iaith ddieithr.
I Co WelBeibl 14:20  Frodyr a chwiorydd annwyl, stopiwch ymddwyn fel plant bach! Byddwch yn ddiniwed fel babis bach lle mae drygioni'n y cwestiwn. Ond, fel arall, dw i eisiau i chi feddwl ac ymddwyn fel oedolion.
I Co WelBeibl 14:21  Mae wedi'i ysgrifennu yn y Gyfraith: “Bydda i'n siarad â'r bobl yma mewn ieithoedd dieithr, drwy'r hyn fydd pobl estron yn ei ddweud – ond fyddan nhw ddim yn gwrando arna i wedyn,” meddai'r Arglwydd.
I Co WelBeibl 14:22  Rhybudd o farn i bobl sydd ddim yn credu ydy ieithoedd dieithr, nid i'r rhai sy'n credu. Ond mae proffwydoliaeth yn arwydd i'r rhai sy'n credu, nid i'r rhai sydd ddim yn credu.
I Co WelBeibl 14:23  Felly, os ydy pawb yn siarad mewn ieithoedd dieithr pan mae'r eglwys yn cyfarfod, a phobl sydd ddim yn credu nac yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn dod i mewn, byddan nhw'n meddwl eich bod chi'n hollol wallgof!
I Co WelBeibl 14:24  Ond os dych chi i gyd yn proffwydo pan mae rhywun sydd ddim yn credu nac yn deall yn dod i mewn, byddan nhw'n cael eu hargyhoeddi eu bod yn wynebu barn.
I Co WelBeibl 14:25  Bydd y gwir amdanyn nhw yn dod i'r wyneb, a byddan nhw'n syrthio i lawr ac yn addoli Duw, a gweiddi, “Mae'n wir! – mae Duw yn eich plith chi!”
I Co WelBeibl 14:26  Beth dw i'n ei ddweud felly, ffrindiau annwyl? Pan fyddwch yn cyfarfod gyda'ch gilydd, mae gan bawb rywbeth i'w rannu – cân, rhywbeth i'w ddysgu i eraill, rhyw wirionedd sydd wedi'i ddatguddio, siarad iaith ddieithr neu'r gallu i esbonio beth sy'n cael ei ddweud. Dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd fydd yn cryfhau cymdeithas yr eglwys.
I Co WelBeibl 14:27  Os oes siarad mewn ieithoedd dieithr i fod, dim ond dau – neu dri ar y mwya – ddylai siarad; pob un yn ei dro. A rhaid i rywun esbonio beth sy'n cael ei ddweud.
I Co WelBeibl 14:28  Os nad oes neb i esbonio beth sy'n cael ei ddweud, dylai'r rhai sy'n siarad ieithoedd dieithr aros yn dawel yn y cyfarfod, a chadw'r peth rhyngddyn nhw a Duw.
I Co WelBeibl 14:29  Dylid rhoi cyfle i ddau neu dri o broffwydi siarad, a dylai pawb arall bwyso a mesur yn ofalus y cwbl gafodd ei ddweud.
I Co WelBeibl 14:30  Ac os ydy rhywbeth yn cael ei ddatguddio i rywun arall sy'n eistedd yno, dylai'r un sy'n siarad ar y pryd dewi.
I Co WelBeibl 14:31  Gall pob un ohonoch chi broffwydo yn eich tro, er mwyn i bawb gael eu dysgu a'u hannog.
I Co WelBeibl 14:33  Duw'r heddwch ydy Duw, dim Duw anhrefn! Dyna sut mae hi i fod ym mhob un o'r eglwysi.
I Co WelBeibl 14:34  “Dylai gwragedd gadw'n ddistaw yn y cyfarfodydd. Does ganddyn nhw ddim hawl i siarad. Eu lle nhw ydy derbyn y drefn, fel mae'r Gyfraith yn dweud.
I Co WelBeibl 14:35  Os ydyn nhw eisiau holi am rywbeth, maen nhw'n gallu gofyn i'w gwŷr ar ôl mynd adre; mae'n beth gwarthus i weld gwraig yn siarad yn yr eglwys.”
I Co WelBeibl 14:36  Beth? Ai oddi wrthoch chi ddaeth neges Duw gyntaf? Neu ai chi ydy'r unig bobl mae neges Duw wedi dod atyn nhw?
I Co WelBeibl 14:37  Os oes rhai ohonoch chi'n meddwl eich bod chi'n broffwydi neu'n ‛bobl yr Ysbryd‛, dylech chi gydnabod fod beth dw i'n ei ysgrifennu yn orchymyn oddi wrth Dduw.
I Co WelBeibl 14:38  Bydd y rhai sy'n diystyru hyn yn cael eu diystyru eu hunain!
I Co WelBeibl 14:39  Felly, ffrindiau annwyl, byddwch yn frwd i broffwydo, ond peidiwch rhwystro pobl rhag siarad mewn ieithoedd dieithr.
I Co WelBeibl 14:40  Ond dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd sy'n weddus ac yn drefnus.