I CORINTHIANS
Chapter 6
I Co | WelBeibl | 6:1 | Pan mae gynnoch chi achos yn erbyn Cristion arall, sut allwch chi feiddio mynd i lys barn? Rhannwch y peth gyda'ch cyd-Gristnogion, iddyn nhw ddelio gyda'r mater. | |
I Co | WelBeibl | 6:2 | Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “pobl Dduw yn mynd i farnu'r byd”? Felly os byddwch chi'n barnu'r byd, ydych chi ddim yn gallu delio gyda rhyw fân achosion fel hyn? | |
I Co | WelBeibl | 6:3 | Rhaid i chi gofio y byddwn ni'n barnu angylion bryd hynny! Felly does bosib nad ydyn ni'n gallu setlo problemau pob dydd ar y ddaear yma! | |
I Co | WelBeibl | 6:4 | Ond na, mae rhyw achos yn codi a dych chi'n gofyn i bobl y tu allan i'r eglwys ddelio gyda'r mater! | |
I Co | WelBeibl | 6:5 | Cywilydd arnoch chi! Oes neb yn eich plith chi sy'n ddigon doeth i ddelio gyda'r math yma o beth? | |
I Co | WelBeibl | 6:6 | Ydy'n iawn i Gristion erlyn Cristion arall? – a hynny o flaen pobl sydd ddim yn credu? | |
I Co | WelBeibl | 6:7 | Mae achosion llys fel yma rhwng Cristnogion â'i gilydd yn dangos methiant llwyr. Byddai'n well petaech chi'n diodde'r cam, ac yn gadael i'r person arall eich twyllo chi! | |
I Co | WelBeibl | 6:8 | Ond na, mae'n well gynnoch chi dwyllo a gwneud cam â phobl eraill – hyd yn oed eich cyd-Gristnogion! | |
I Co | WelBeibl | 6:9 | Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo'ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy'n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu'n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol, | |
I Co | WelBeibl | 6:10 | lladron, pobl hunanol, meddwon, nag i neb sy'n enllibio pobl eraill ac yn eu twyllo nhw. | |
I Co | WelBeibl | 6:11 | A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a'ch gwneud yn bur. Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist a'r Ysbryd Glân wedi'i wneud drosoch chi. | |
I Co | WelBeibl | 6:12 | Ond, “Mae gen i ryddid i wneud beth dw i eisiau” meddech chi. A dw i'n ateb, “Dydy popeth ddim yn dda i chi.” Er mod i'n rhydd i wneud beth dw i eisiau, fydd dim byd yn cael bod yn feistr arna i. | |
I Co | WelBeibl | 6:13 | “Mae'n naturiol,” meddech chi wedyn, “fel bwyd i'r stumog a'r stumog i fwyd.” Falle wir, ond bydd Duw yn dinistrio'r ddau yn y diwedd. Chafodd y corff mo'i greu i fod yn anfoesol yn rhywiol – cafodd ei wneud i wasanaethu'r Arglwydd. Ac mae'r corff yn bwysig i'r Arglwydd! | |
I Co | WelBeibl | 6:14 | Cododd Duw gorff yr Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, a bydd yn defnyddio'i nerth i godi ein cyrff ninnau yr un fath. | |
I Co | WelBeibl | 6:15 | Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich cyrff chi yn rhannau o gorff y Meseia ei hun? Ydw i'n mynd i ddefnyddio fy nghorff (sy'n perthyn i'r Meseia) i gael rhyw gyda phutain? Na, byth! | |
I Co | WelBeibl | 6:16 | Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn yn clymu ei hun gyda'r butain wrth gael rhyw gyda hi? “Bydd y ddau yn dod yn un,” meddai'r ysgrifau sanctaidd. | |
I Co | WelBeibl | 6:17 | Ond mae'r sawl sy'n clymu ei hun i'r Arglwydd yn rhannu'r un Ysbryd â'r Arglwydd. | |
I Co | WelBeibl | 6:18 | Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol. Does dim un pechod arall sy'n effeithio ar y corff yr un fath. Mae'r person sy'n pechu'n rhywiol yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. | |
I Co | WelBeibl | 6:19 | Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi'n deml i'r Ysbryd Glân? Mae'r Ysbryd yn byw ynoch chi – mae wedi'i roi'n rhodd i chi gan Dduw. Dim chi biau eich bywyd; | |