Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 17
Levi WelBeibl 17:2  “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd, mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn:
Levi WelBeibl 17:3  Os ydy unrhyw un o bobl Israel yn aberthu bustach, dafad, neu afr yn y gwersyll neu'r tu allan i'r gwersyll,
Levi WelBeibl 17:4  yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:5  Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod â'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 17:6  Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r braster fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 17:7  Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Levi WelBeibl 17:8  “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel, nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,
Levi WelBeibl 17:9  oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i babell presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:10  “Bydda i'n troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo – un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:11  Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi'i roi i'w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw.
Levi WelBeibl 17:12  Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb ohonyn nhw, gan gynnwys mewnfudwyr o'r tu allan, i fwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo.
Levi WelBeibl 17:13  “Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn dal anifail neu aderyn sy'n iawn i'w fwyta, rhaid gadael i'r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio'r gwaed hwnnw gyda phridd.
Levi WelBeibl 17:14  Mae bywyd pob creadur byw yn y gwaed. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb i fwyta cig unrhyw anifail gyda'r gwaed yn dal ynddo. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 17:15  “Os ydy rhywun yn bwyta cig anifail sydd wedi marw neu sydd wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Ond ar ôl hynny bydd e'n lân.
Levi WelBeibl 17:16  Os nad ydy'r person hwnnw yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi, bydd yn cael ei gosbi am ei bechod.”