Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 23
Levi WelBeibl 23:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli:
Levi WelBeibl 23:3  “Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio lle bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:4  “Dyma'r gwyliau penodol eraill pan mae'r ARGLWYDD am i chi ddod at eich gilydd i addoli:
Levi WelBeibl 23:5  “Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
Levi WelBeibl 23:6  “Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo.
Levi WelBeibl 23:7  Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
Levi WelBeibl 23:8  Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a pheidio gwneud eich gwaith arferol.”
Levi WelBeibl 23:10  “Dwed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, ac yn casglu'r cynhaeaf, mae'r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei rhoi i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 23:11  Y diwrnod ar ôl y Saboth, mae'r offeiriad i gymryd yr ysgub a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a bydd Duw yn ei derbyn hi.
Levi WelBeibl 23:12  Ar y diwrnod hwnnw hefyd, rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:13  Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, ac offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win.
Levi WelBeibl 23:14  Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi'i grasu, na bara wedi'i wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid lle bynnag fyddwch chi'n byw.
Levi WelBeibl 23:15  “Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i'r ARGLWYDD, rwyt i ddod ag offrwm arall o rawn newydd.
Levi WelBeibl 23:16  Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth.
Levi WelBeibl 23:17  Tyrd â dwy dorth o fara i'w codi a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau, a'u pobi gyda burum, fel offrwm wedi'i wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf.
Levi WelBeibl 23:18  “Hefyd, rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un.
Levi WelBeibl 23:19  Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i.
Levi WelBeibl 23:20  Rhaid i'r offeiriad eu codi nhw – sef y ddau oen – a'u chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD gyda'r bara sydd wedi'i wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. Byddan nhw wedi'u cysegru ac yn cael eu rhoi i'r offeiriaid.
Levi WelBeibl 23:21  Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, lle bynnag fyddwch chi'n byw.
Levi WelBeibl 23:22  “Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A phaid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi'i adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Levi WelBeibl 23:24  “Dwed wrth bobl Israel: “Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio fydd hwn, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli.
Levi WelBeibl 23:25  Peidiwch gweithio fel arfer, ond dod a chyflwyno rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.”
Levi WelBeibl 23:27  “Y degfed diwrnod o'r seithfed mis ydy'r diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn rhyngoch chi a Duw. Rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod, a dod â rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:28  Peidiwch gweithio ar y diwrnod yna, am mai'r diwrnod i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a'r ARGLWYDD eich Duw ydy e.
Levi WelBeibl 23:29  Yn wir, os bydd rhywun yn gwrthod mynd heb fwyd, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 23:30  Ac os bydd unrhyw un yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n dinistrio'r person hwnnw – bydd e'n marw.
Levi WelBeibl 23:31  Rhaid i chi beidio gweithio! Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.
Levi WelBeibl 23:32  Mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod o orffwys llwyr i chi, fel y Saboth. Rhaid i chi beidio bwyta o'r amser pan fydd hi'n nosi y noson cynt nes iddi nosi y diwrnod hwnnw. Rhaid i chi ei gadw fel Saboth.”
Levi WelBeibl 23:34  “Dwed wrth bobl Israel: “Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i bawb ddathlu Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 23:35  Does neb i weithio ar ddiwrnod cynta'r Ŵyl. Byddwch yn dod at eich gilydd i addoli.
Levi WelBeibl 23:36  Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod, byddwch yn dod at eich gilydd i addoli a chyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD. Dyma'r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl.
Levi WelBeibl 23:37  “Dyma'r gwyliau penodol dw i wedi'u dewis i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD – offrymau i'w llosgi'n llwyr, offrymau o rawn, aberthau, a'r offrymau o ddiod sydd wedi'u penodi ar gyfer bob dydd.
Levi WelBeibl 23:38  Hyn i gyd heb sôn am Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich offrymau wrth wneud addewid, a'r offrymau dych chi'n eu rhoi o'ch gwirfodd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 23:39  “Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis, pan fyddwch wedi casglu'ch cnydau i gyd, rhaid i chi ddathlu a chynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod. Mae'r diwrnod cyntaf i fod yn ddiwrnod o orffwys llwyr, a'r wythfed diwrnod hefyd.
Levi WelBeibl 23:40  Ar y diwrnod cyntaf, dych chi i gymryd canghennau o'r coed ffrwythau gorau, canghennau coed palmwydd a choed deiliog eraill, a'r helyg sy'n tyfu ar lan yr afon – a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.
Levi WelBeibl 23:41  Rhaid i chi ddathlu'r Ŵyl yma i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae'n rheol sydd i'w chadw bob amser yn y seithfed mis.
Levi WelBeibl 23:42  Rhaid i chi aros mewn lloches dros dro am saith diwrnod. Mae pobl Israel i gyd i aros ynddyn nhw,
Levi WelBeibl 23:43  er mwyn i'ch plant chi wybod mod i wedi gwneud i bobl Israel aros mewn llochesau felly pan ddes i â nhw allan o wlad yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Levi WelBeibl 23:44  Felly dwedodd Moses wrth bobl Israel am y gwyliau penodol roedd yr ARGLWYDD eisiau iddyn nhw eu cadw.