Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 4
Levi WelBeibl 4:2  “Dwed wrth bobl Israel: Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol (drwy wneud rhywbeth mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio'i wneud):
Levi WelBeibl 4:3  “Os ydy'r archoffeiriad wedi pechu, mae'n effeithio ar bawb. Mae'n gwneud pawb yn euog. Felly rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro i'w lanhau o'i bechod.
Levi WelBeibl 4:4  Rhaid iddo fynd â'r tarw o flaen yr ARGLWYDD, at y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn gosod ei law ar ben yr anifail cyn ei ladd yno.
Levi WelBeibl 4:5  Yna bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:6  Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen o flaen y cysegr.
Levi WelBeibl 4:7  Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd yno o flaen yr ARGLWYDD. A bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:8  “Yna bydd yr archoffeiriad yn cymryd braster yr anifail i gyd: y braster sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol,
Levi WelBeibl 4:9  y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
Levi WelBeibl 4:10  (Mae hyn yn union yr un fath â beth sy'n cael ei wneud i fustach yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.) Rhaid i'r archoffeiriad losgi'r braster yma i gyd ar yr allor i losgi offrymau.
Levi WelBeibl 4:11  Ond mae i fynd â gweddill y tarw y tu allan i'r gwersyll – y croen, y cig, ei ben a'i goesau, y perfeddion, a'r coluddion. Mae'r rhain i gael eu llosgi ar dân coed wrth ymyl tomen ludw'r braster. Lle sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
Levi WelBeibl 4:12  Ond mae i fynd â gweddill y tarw y tu allan i'r gwersyll – y croen, y cig, ei ben a'i goesau, y perfeddion, a'r coluddion. Mae'r rhain i gael eu llosgi ar dân coed wrth ymyl tomen ludw'r braster. Lle sydd wedi cael ei gysegru i'r pwrpas hwnnw.
Levi WelBeibl 4:13  “Pan mae pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli eu bod wedi gwneud hynny, maen nhw i gyd yn euog.
Levi WelBeibl 4:14  Unwaith maen nhw'n sylweddoli beth maen nhw wedi'i wneud, maen nhw i ddod â tharw ifanc yn offrwm i'w glanhau o'u pechod. Rhaid cyflwyno'r anifail o flaen y Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:15  Yno bydd arweinwyr y bobl yn gosod eu dwylo ar ben y tarw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn bydd y tarw yn cael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 4:16  Wedyn bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:17  Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen.
Levi WelBeibl 4:18  Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 4:19  Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd braster yr anifail i gyd a'i losgi ar yr allor.
Levi WelBeibl 4:20  Wedyn mae i wneud yr un peth gyda'r tarw yma ag a wnaeth gyda'r tarw gafodd ei offrymu dros ei bechod ei hun. Bydd yr archoffeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y bobl a Duw, a bydd Duw yn maddau iddyn nhw.
Levi WelBeibl 4:21  Bydd e'n mynd â gweddill y tarw tu allan i'r gwersyll. Bydd e'n ei losgi, yr un fath â'r tarw arall. Mae'n offrwm i lanhau pobl Israel o bechod.
Levi WelBeibl 4:22  “Pan mae un o arweinwyr pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.
Levi WelBeibl 4:23  Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae wedi'i wneud, mae i fynd â bwch gafr heb ddim byd o'i le arno i'w aberthu.
Levi WelBeibl 4:24  Rhaid iddo osod ei law ar ben y bwch gafr ac wedyn ei ladd o flaen yr ARGLWYDD (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd). Mae'n offrwm i'w lanhau o'i bechod.
Levi WelBeibl 4:25  Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 4:26  Bydd yn llosgi'r braster i gyd ar yr allor, fel roedd yn gwneud gyda braster yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 4:27  “Os ydy person cyffredin yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae e'n euog.
Levi WelBeibl 4:28  Unwaith mae e'n sylweddoli beth mae e wedi'i wneud, mae i fynd â gafr sydd â dim byd o'i le arni i'w haberthu dros ei bechod.
Levi WelBeibl 4:29  Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben yr afr sydd i'w haberthu, ac wedyn ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm sydd i'w losgi yn cael ei ladd).
Levi WelBeibl 4:30  Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed yr anifail a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 4:31  Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd braster yr anifail (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.
Levi WelBeibl 4:32  “Os ydy e'n dod â dafad yn offrwm dros ei bechod, rhaid iddi fod yn ddafad heb ddim byd o'i le arni.
Levi WelBeibl 4:33  Wedyn rhaid iddo osod ei law ar ben y ddafad sydd i'w haberthu, ac yna ei lladd (yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi yn cael ei ladd).
Levi WelBeibl 4:34  Wedyn mae offeiriad i gymryd peth o waed y ddafad a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i losgi offrymau. Ac wedyn bydd yn tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
Levi WelBeibl 4:35  Bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn cymryd braster y ddafad (fel mae'n gwneud gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Ac wedyn bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor gyda'r offrymau sydd i'w llosgi i'r ARGLWYDD. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.