Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 21
Levi WelBeibl 21:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron: “Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw.
Levi WelBeibl 21:2  Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf – mam, tad, merch, brawd,
Levi WelBeibl 21:4  Dydy e ddim i fynd at rywun sy'n perthyn iddo drwy briodas. Byddai'n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny.
Levi WelBeibl 21:5  Dydy offeiriad ddim i siafio rhan o'i ben yn foel, na trimio ei farf, na torri ei hun wrth alaru.
Levi WelBeibl 21:6  Maen nhw i gysegru eu hunain i Dduw, a pheidio sarhau enw eu Duw. Nhw sy'n cyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD, sef bwyd i'w Duw. Maen nhw i fod wedi'u cysegru.
Levi WelBeibl 21:7  Dydy offeiriad ddim i briodi putain, na gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd, na gwraig sydd wedi cael ysgariad. Maen nhw wedi cysegru eu hunain i Dduw.
Levi WelBeibl 21:8  Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
Levi WelBeibl 21:9  Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi'n butain grefyddol, mae hi'n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth.
Levi WelBeibl 21:10  “Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nac i rwygo'i ddillad.
Levi WelBeibl 21:11  Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.
Levi WelBeibl 21:12  Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi'i gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 21:14  Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,
Levi WelBeibl 21:15  rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'i gysegru e i mi fy hun.”
Levi WelBeibl 21:17  “Dwed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw.
Levi WelBeibl 21:18  Neb sy'n ddall, yn gloff, gyda wyneb wedi'i anffurfio, neu ryw nam corfforol arall,
Levi WelBeibl 21:20  yn grwca neu'n gorrach, neu'n ddyn sydd â rhywbeth o'i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau.
Levi WelBeibl 21:21  Does neb o ddisgynyddion Aaron sydd â nam arnyn nhw i gael dod i offrymu rhoddion i'r ARGLWYDD. Os oes nam arno, dydy e ddim yn cael cyflwyno bwyd ei Dduw.
Levi WelBeibl 21:22  Mae'n iawn iddo fwyta bwyd ei Dduw, yr hyn sydd wedi'i gysegru a'r offrymau mwyaf sanctaidd.
Levi WelBeibl 21:23  Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
Levi WelBeibl 21:24  Dyma'r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a'i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel.