LEVITICUS
Chapter 1
Levi | WelBeibl | 1:2 | “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dylai fod o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr. | |
Levi | WelBeibl | 1:3 | “Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 1:4 | Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw. | |
Levi | WelBeibl | 1:5 | Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. | |
Levi | WelBeibl | 1:9 | Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 1:10 | “Os anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu'n fwch gafr – anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. | |
Levi | WelBeibl | 1:11 | Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. | |
Levi | WelBeibl | 1:12 | Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r braster mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor. | |
Levi | WelBeibl | 1:13 | Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl â dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 1:14 | “Os aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen ifanc. | |
Levi | WelBeibl | 1:15 | Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor. | |
Levi | WelBeibl | 1:16 | Yna bydd yr offeiriad yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, ac yn eu taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor. | |