Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Levi WelBeibl 1:1  Dyma'r ARGLWYDD yn galw Moses ac yn siarad ag e o'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 1:2  “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dylai fod o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr.
Levi WelBeibl 1:3  “Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 1:4  Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw.
Levi WelBeibl 1:5  Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 1:6  Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn blingo'r anifail a'i dorri yn ddarnau.
Levi WelBeibl 1:7  Bydd yr offeiriaid yn rhoi tân ar yr allor ac yn gosod coed ar y tân.
Levi WelBeibl 1:8  Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân.
Levi WelBeibl 1:9  Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 1:10  “Os anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu'n fwch gafr – anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno.
Levi WelBeibl 1:11  Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Levi WelBeibl 1:12  Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r braster mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor.
Levi WelBeibl 1:13  Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl â dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 1:14  “Os aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen ifanc.
Levi WelBeibl 1:15  Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor.
Levi WelBeibl 1:16  Yna bydd yr offeiriad yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, ac yn eu taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor.
Levi WelBeibl 1:17  Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.