LEVITICUS
Chapter 22
Levi | WelBeibl | 22:2 | “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion fod rhaid iddyn nhw ddangos parch at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, fel eu bod nhw ddim yn sarhau fy enw sanctaidd i. Fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:3 | Dwed wrthyn nhw: O hyn ymlaen, os bydd unrhyw un ohonoch chi yn aflan am ryw reswm ac yn mynd yn agos at yr offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan, a ddim yn cael dod yn agos ata i. Fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:4 | “Does neb o ddisgynyddion Aaron sy'n diodde o glefyd heintus ar y croen neu glefyd ar ei bidyn i gael bwyta'r offrymau sanctaidd nes bydd e'n lân. A pheidiwch cyffwrdd unrhyw beth sydd wedi'i wneud yn aflan (gan gorff marw, dyn sydd wedi gollwng ei had, | |
Levi | WelBeibl | 22:5 | unrhyw anifail aflan neu greadur aflan arall, neu unrhyw berson sy'n aflan am unrhyw reswm o gwbl). | |
Levi | WelBeibl | 22:6 | Bydd y dyn sy'n cyffwrdd rhywbeth felly yn aflan am weddill y dydd, a dydy e ddim i fwyta o'r offrymau sanctaidd nes bydd e wedi ymolchi mewn dŵr. | |
Levi | WelBeibl | 22:7 | Bydd e'n lân ar ôl i'r haul fachlud. Mae'n iawn iddo fwyta'r offrymau sanctaidd wedyn – wedi'r cwbl, dyna'i fwyd e. | |
Levi | WelBeibl | 22:8 | “A pheidiwch bwyta rhywbeth sydd wedi marw ohono'i hun neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. Mae hynny'n eich gwneud chi'n aflan hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:9 | Gwnewch beth dw i'n ddweud, rhag i mi eich cael chi'n euog ac i chi farw yn y cysegr am eich bod wedi'i halogi. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi'r offeiriaid. | |
Levi | WelBeibl | 22:10 | “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta. | |
Levi | WelBeibl | 22:11 | “Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael bwyta'r offrymau sanctaidd. Does neb sy'n lletya gyda'r offeiriad i'w fwyta, na neb sy'n gweithio iddo. Ond os ydy e wedi prynu caethwas, mae hwnnw a'i deulu yn cael bwyta. | |
Levi | WelBeibl | 22:12 | Os ydy merch offeiriad yn priodi dyn sydd ddim yn offeiriad, dydy hi ddim i gael bwyta'r offrymau o hynny ymlaen. | |
Levi | WelBeibl | 22:13 | Ond wedyn, os ydy merch yr offeiriad yn mynd yn ôl i fyw at ei thad am fod ei gŵr wedi marw neu am ei bod hi wedi cael ysgariad, a bod dim plant ganddi, mae ganddi hawl i fwyta bwyd ei thad eto. Does neb ond yr offeiriaid a'u teulu agosaf i gael ei fwyta. | |
Levi | WelBeibl | 22:14 | “Os ydy unrhyw un arall yn ddamweiniol yn bwyta'r offrymau sanctaidd, rhaid iddo dalu am y bwyd ac ychwanegu 20%. | |
Levi | WelBeibl | 22:15 | Does neb i amharchu'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:16 | Mae unrhyw un sydd ddim i fod i'w bwyta yn euog os ydyn nhw'n gwneud hynny. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eu cysegru nhw i mi fy hun.” | |
Levi | WelBeibl | 22:18 | “Dwed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd: ‘Pan mae un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD – offrwm wrth wneud addewid, neu un sy'n cael ei roi i'r ARGLWYDD o wirfodd – | |
Levi | WelBeibl | 22:19 | dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno – tarw ifanc, hwrdd neu fwch gafr. | |
Levi | WelBeibl | 22:20 | Rhaid peidio cyflwyno anifail sydd â nam arno. Fydd Duw ddim yn ei dderbyn ar eich rhan chi. | |
Levi | WelBeibl | 22:21 | “‘Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl iddo gyflawni ei addewid, rhaid i'r anifail – o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr – fod heb ddim byd o'i le arno. Os ydy'r ARGLWYDD i'w dderbyn, rhaid iddo fod heb nam arno. | |
Levi | WelBeibl | 22:22 | Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sy'n ddall, wedi torri asgwrn, wedi'i anafu, gyda briw wedi mynd yn ddrwg, brech neu gydag unrhyw afiechyd ar y croen. Dydy anifail felly ddim i gael ei gyflwyno ar yr allor yn rhodd i'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:23 | Mae'n iawn i gyflwyno anifail sydd ag un goes yn hirach neu'n fyrrach na'r lleill fel offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, ond dim fel offrwm i wneud addewid. | |
Levi | WelBeibl | 22:24 | Peidiwch cyflwyno anifail i'r ARGLWYDD sydd â'i geilliau wedi'u hanafu neu sydd wedi cael ei sbaddu. Dydy hynny ddim i gael ei wneud yn eich gwlad chi. | |
Levi | WelBeibl | 22:25 | A dydy anifail felly sydd wedi'i brynu gan rywun sydd ddim yn Israeliad ddim i gael ei gyflwyno yn fwyd i'ch Duw. Am eu bod nhw wedi'u sbwylio, ac am fod nam arnyn nhw, fydd yr ARGLWYDD ddim yn eu derbyn nhw ar eich rhan chi.’” | |
Levi | WelBeibl | 22:27 | “Pan mae llo neu oen neu fyn gafr yn cael ei eni, mae'r anifail i aros gyda'i fam am saith diwrnod. Ond ar ôl wythnos bydd yn iawn i'w gyflwyno'n offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:29 | Wrth aberthu anifail i ddiolch i'r ARGLWYDD am rywbeth, rhaid ei aberthu yn y ffordd iawn, fel bod Duw yn ei dderbyn ar eich rhan. | |
Levi | WelBeibl | 22:30 | Rhaid ei fwyta y diwrnod hwnnw. Does dim ohono i gael ei adael tan y bore wedyn. Fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Levi | WelBeibl | 22:32 | Peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i. Dw i eisiau i bobl Israel fy anrhydeddu i. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. | |