LEVITICUS
Chapter 5
Levi | WelBeibl | 5:1 | “Pan mae rhywun yn gwrthod rhoi tystiolaeth mewn llys (ac yn gwybod neu wedi gweld beth ddigwyddodd), mae e'n euog, a bydd yn cael ei gosbi. | |
Levi | WelBeibl | 5:2 | “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd rhywbeth sy'n aflan drwy ddamwain (fel corff anifail neu greadur arall sy'n aflan), mae'n euog ac mae e'i hun yn aflan. | |
Levi | WelBeibl | 5:3 | “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd drwy ddamwain unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth sydd wedi digwydd. | |
Levi | WelBeibl | 5:4 | “Pan mae rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth – da neu ddrwg – mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth mae e wedi'i wneud. | |
Levi | WelBeibl | 5:5 | “Pan mae rhywun yn sylweddoli ei fod yn euog o wneud un o'r pethau yma, rhaid iddo gyffesu beth mae wedi'i wneud. | |
Levi | WelBeibl | 5:6 | Wedyn rhaid iddo dalu am y drwg mae wedi'i wneud drwy ddod â dafad neu afr i'w chyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Bydd offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. | |
Levi | WelBeibl | 5:7 | “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dafad neu afr, dylai ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr. | |
Levi | WelBeibl | 5:8 | Rhaid dod â nhw i'r offeiriad. Wedyn bydd yr offeiriad yn cyflwyno un ohonyn nhw yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yn troi ei wddf ond heb dorri ei ben i ffwrdd. | |
Levi | WelBeibl | 5:9 | Wedyn bydd yn taenellu peth o waed yr aderyn ar ochr yr allor. Bydd gweddill y gwaed yn cael ei wasgu allan wrth droed yr allor. | |
Levi | WelBeibl | 5:10 | Wedyn bydd yr ail aderyn yn cael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Bydd yr offeiriad yn dilyn y ddefod arferol wrth ei gyflwyno. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. | |
Levi | WelBeibl | 5:11 | “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dwy durtur neu ddwy golomen ifanc, dylai ddod â cilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Rhaid peidio rhoi olew olewydd na thus arno am mai offrwm i'w lanhau o'i bechod ydy e. | |
Levi | WelBeibl | 5:12 | Dylai roi'r blawd i'r offeiriad, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw ohono i'w losgi fel ernes ar yr allor gyda'r offrymau eraill. Mae'n offrwm i lanhau o bechod. | |
Levi | WelBeibl | 5:13 | Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm a Duw, pa un bynnag o'r pethau hyn mae e wedi'i wneud o'i le, a bydd Duw yn maddau iddo. Mae'r offeiriad yn cael gweddill y blawd, fel gyda'r offrwm o rawn.” | |
Levi | WelBeibl | 5:15 | “Pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol ac yn torri'r rheolau am y pethau sanctaidd sydd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD, rhaid iddo ddod ag offrwm i gyfaddef bai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno, neu gall dalu'r pris llawn am hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr. | |
Levi | WelBeibl | 5:16 | Mae e hefyd i dalu'r ddyled yn ôl ac ychwanegu 20% a'i roi i'r offeiriad. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod. | |
Levi | WelBeibl | 5:17 | “Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae'n euog, a bydd yn cael ei gosbi. | |
Levi | WelBeibl | 5:18 | Rhaid i'r person hwnnw ddod â hwrdd heb ddim byd o'i le arno, neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd, yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd a Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei gamgymeriad. | |