Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MARK
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 16
Mark WelBeibl 16:1  Yn hwyr ar y nos Sadwrn, pan oedd y Saboth drosodd, aeth Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago i brynu perlysiau ar gyfer eneinio corff Iesu.
Mark WelBeibl 16:2  Yna'n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw'n mynd at y bedd.
Mark WelBeibl 16:3  Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio'r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw.
Mark WelBeibl 16:4  Ond pan gyrhaeddon nhw'r bedd dyma nhw'n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi'i rholio i ffwrdd.
Mark WelBeibl 16:5  Wrth gamu i mewn i'r bedd, dyma nhw'n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde.
Mark WelBeibl 16:6  “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd.
Mark WelBeibl 16:7  Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’”
Mark WelBeibl 16:8  Dyma'r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth.
Mark WelBeibl 16:9  Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni.
Mark WelBeibl 16:10  Aeth hithau i ddweud wrth y rhai oedd wedi bod gydag e. Roedden nhw'n galaru ac yn crio.
Mark WelBeibl 16:11  Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi'i weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.
Mark WelBeibl 16:12  Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad.
Mark WelBeibl 16:13  Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.
Mark WelBeibl 16:14  Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi'i weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw,
Mark WelBeibl 16:15  dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.
Mark WelBeibl 16:16  Bydd pob un sy'n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy'n gwrthod credu yn cael ei gondemnio.
Mark WelBeibl 16:17  A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma'n digwydd i'r rhai sy'n credu: Byddan nhw'n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol.
Mark WelBeibl 16:18  Byddan nhw'n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw'n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw'n gosod eu dwylo ar bobl sy'n glaf, a'u hiacháu nhw.”
Mark WelBeibl 16:19  Ar ôl i'r Arglwydd Iesu orffen siarad â nhw, cafodd ei gymryd i fyny i'r nefoedd i lywodraethu yno gyda Duw.
Mark WelBeibl 16:20  O hynny ymlaen aeth y disgyblion allan i bregethu ym mhobman. Roedd yr Arglwydd yn gweithio gyda nhw, ac yn cadarnhau fod y neges yn wir drwy'r arwyddion gwyrthiol oedd yn digwydd yr un pryd.