REVELATION OF JOHN
Chapter 12
Reve | WelBeibl | 12:1 | Dyma arwydd rhyfeddol yn ymddangos yn y nefoedd: gwraig wedi'i gwisgo â'r haul. Roedd y lleuad dan ei thraed ac roedd coron o saith seren ar ei phen. | |
Reve | WelBeibl | 12:2 | Roedd y wraig yn feichiog ac yn gweiddi mewn poen am fod y plentyn wedi dechrau cael ei eni. | |
Reve | WelBeibl | 12:3 | A dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a deg corn, a saith coron ar ei phennau. | |
Reve | WelBeibl | 12:4 | Dyma gynffon y ddraig yn ysgubo un rhan o dair o'r sêr o'r awyr ac yn eu taflu i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin geni plentyn, yn barod i lyncu ei phlentyn yr eiliad y byddai yn cael ei eni. | |
Reve | WelBeibl | 12:5 | Cafodd y wraig fab – bachgen fydd yn teyrnasu dros yr holl genhedloedd gyda theyrnwialen haearn. Dyma'r plentyn yn cael ei gipio i fyny at Dduw ac at ei orsedd. | |
Reve | WelBeibl | 12:6 | Dyma'r wraig yn dianc i'r anialwch i le oedd Duw wedi'i baratoi iddi, lle byddai hi'n ddiogel am fil dau gant chwe deg diwrnod. | |
Reve | WelBeibl | 12:7 | Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael a'i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig. Roedd y ddraig a'i hangylion yn ymladd yn ôl, | |
Reve | WelBeibl | 12:9 | Dyma'r ddraig fawr yn cael ei hyrddio i lawr (sef yr hen sarff sy'n cael ei galw ‛y diafol‛ a ‛Satan‛ ac sy'n twyllo'r byd i gyd). Cafodd ei hyrddio i lawr i'r ddaear, a'i hangylion gyda hi. | |
Reve | WelBeibl | 12:10 | Yna clywais lais uchel yn y nefoedd yn dweud: “Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu, ac mae'r awdurdod gan ei Feseia. Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd (yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos), wedi cael ei hyrddio i lawr. | |
Reve | WelBeibl | 12:11 | Maen nhw wedi ennill y frwydr am fod yr Oen wedi marw'n aberth, ac am iddyn nhw dystio i'r neges. Dim ceisio amddiffyn eu hunain wnaeth y rhain – doedd ganddyn nhw ddim ofn marw. | |
Reve | WelBeibl | 12:12 | Felly bydd lawen nefoedd! Llawenhewch bawb sy'n byw yno! Ond gwae chi'r ddaear a'r môr, oherwydd mae'r diafol wedi dod i lawr atat, ac wedi gwylltio'n gandryll, am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.” | |
Reve | WelBeibl | 12:13 | Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen. | |
Reve | WelBeibl | 12:14 | Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i'r wraig, iddi allu hedfan i'r lle oedd wedi'i baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi'n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner. | |
Reve | WelBeibl | 12:15 | Yna dyma'r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a'u hysgubo i ffwrdd gyda'r llif. | |
Reve | WelBeibl | 12:16 | Ond dyma'r ddaear yn helpu'r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi'i chwydu o'i cheg. | |
Reve | WelBeibl | 12:17 | Roedd y ddraig yn wyllt gynddeiriog gyda'r wraig, ac aeth allan i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant – yn erbyn y rhai sy'n ufudd i orchmynion Duw ac yn dal ati i dystio i Iesu. | |