Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
RUTH
1 2 3 4
Prev Up Next
Chapter 4
Ruth WelBeibl 4:1  Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd.
Ruth WelBeibl 4:2  Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a'u cael nhw hefyd i eistedd gydag e.
Ruth WelBeibl 4:3  Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni.
Ruth WelBeibl 4:4  Rôn i'n meddwl y dylwn i adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau'i brynu e, cymera fe, os nad wyt ti ei eisiau gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.” A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.”
Ruth WelBeibl 4:5  Ond wedyn dyma Boas yn dweud wrtho, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.”
Ruth WelBeibl 4:6  “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”
Ruth WelBeibl 4:7  Y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl oedd: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd i gadarnhau cytundeb yn Israel.
Ruth WelBeibl 4:8  Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas.
Ruth WelBeibl 4:9  A dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.
Ruth WelBeibl 4:10  Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb i ofalu am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi, er mwyn codi etifedd fydd yn cadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, fel bod ei enw ddim yn diflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn i gyd, heddiw!”
Ruth WelBeibl 4:11  A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem.
Ruth WelBeibl 4:12  A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi'i rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fel teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”
Ruth WelBeibl 4:13  Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab.
Ruth WelBeibl 4:14  A dwedodd y gwragedd wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel.
Ruth WelBeibl 4:15  Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi'n well na saith mab i ti!”
Ruth WelBeibl 4:16  A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei gliniau a'i fagu.
Ruth WelBeibl 4:17  Rhoddodd y gwragedd lleol enw iddo, sef Obed, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!” Obed oedd tad Jesse a thaid y Brenin Dafydd.
Ruth WelBeibl 4:18  Dyma ddisgynyddion Perets: Perets oedd tad Hesron,
Ruth WelBeibl 4:20  Aminadab oedd tad Nachshon, Nachshon oedd tad Salmon,