I KINGS
Chapter 19
I Ki | WelBeibl | 19:1 | Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd. | |
I Ki | WelBeibl | 19:2 | Yna dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!” | |
I Ki | WelBeibl | 19:3 | Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd. Aeth i Beersheba yn Jwda, gadael ei was yno | |
I Ki | WelBeibl | 19:4 | a cherdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.” | |
I Ki | WelBeibl | 19:5 | Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.” | |
I Ki | WelBeibl | 19:6 | Edrychodd, ac roedd yna fara fflat wedi'i bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto. | |
I Ki | WelBeibl | 19:7 | Daeth angel yr ARGLWYDD ato eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.” | |
I Ki | WelBeibl | 19:8 | Felly dyma fe'n codi, bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a chyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 19:9 | Aeth i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yna'n sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad ag e, “Be wyt ti'n wneud yma, Elias?” | |
I Ki | WelBeibl | 19:10 | A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” | |
I Ki | WelBeibl | 19:11 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o mlaen i.” Yna dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a tharo'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn. | |
I Ki | WelBeibl | 19:12 | Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân; ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd yna ddistawrwydd llwyr. | |
I Ki | WelBeibl | 19:13 | Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti'n wneud yma Elias?” | |
I Ki | WelBeibl | 19:14 | A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!” | |
I Ki | WelBeibl | 19:15 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Yno, eneinia Hasael yn frenin ar Syria. | |
I Ki | WelBeibl | 19:16 | Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd. | |
I Ki | WelBeibl | 19:17 | Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw. | |
I Ki | WelBeibl | 19:18 | A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd i lawr ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.” | |
I Ki | WelBeibl | 19:19 | Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda'r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio. | |
I Ki | WelBeibl | 19:20 | A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam gyntaf, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti.” | |