Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I KINGS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 10
I Ki WelBeibl 10:1  Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a'r clod roedd yn ei roi i'r ARGLWYDD. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd.
I Ki WelBeibl 10:2  Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
I Ki WelBeibl 10:3  Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
I Ki WelBeibl 10:4  Roedd y frenhines wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi'i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
I Ki WelBeibl 10:5  Roedd y frenhines wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi'i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
I Ki WelBeibl 10:6  A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi'u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
I Ki WelBeibl 10:7  Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di'n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
I Ki WelBeibl 10:8  Mae'r bobl yma wedi'u bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
I Ki WelBeibl 10:9  Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
I Ki WelBeibl 10:10  A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau â'r hyn roedd brenhines Sheba wedi'i roi i'r Brenin Solomon.
I Ki WelBeibl 10:11  (Roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig hefyd, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr.
I Ki WelBeibl 10:12  Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a phalas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!)
I Ki WelBeibl 10:13  Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn rhoi popeth roedd hi eisiau i frenhines Sheba. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi'i roi iddi o'i haelioni ei hun. A dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
I Ki WelBeibl 10:14  Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
I Ki WelBeibl 10:15  heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau.
I Ki WelBeibl 10:16  Gwnaeth Solomon ddau gant o darianau mawr o aur wedi'i guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
I Ki WelBeibl 10:17  Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dau cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
I Ki WelBeibl 10:18  Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi'i gorchuddio gydag aur coeth.
I Ki WelBeibl 10:19  Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau bob ochr.
I Ki WelBeibl 10:20  Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
I Ki WelBeibl 10:21  Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi'u gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi'i wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
I Ki WelBeibl 10:22  Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr yn hwylio'r môr gyda llongau Hiram. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
I Ki WelBeibl 10:23  Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nag unrhyw frenin arall yn unman.
I Ki WelBeibl 10:24  Ac roedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y doethineb roedd yr ARGLWYDD wedi'i roi iddo.
I Ki WelBeibl 10:25  Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
I Ki WelBeibl 10:26  Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 10:27  Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
I Ki WelBeibl 10:28  Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.
I Ki WelBeibl 10:29  Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a chant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.