I KINGS
Chapter 14
I Ki | WelBeibl | 14:2 | A dyma Jeroboam yn dweud wrth ei wraig, “Rho ddillad gwahanol amdanat fel bod neb yn gwybod mai ngwraig i wyt ti. Yna dos i Seilo, lle mae'r proffwyd Achïa yn byw. Fe oedd y proffwyd ddwedodd wrtho i y byddwn ni'n frenin ar y bobl yma. | |
I Ki | WelBeibl | 14:3 | Cymer ddeg torth, bisgedi a phot o fêl i'w rhoi iddo. Bydd e'n dweud wrthot ti beth sy'n mynd i ddigwydd i'r bachgen.” | |
I Ki | WelBeibl | 14:4 | Felly dyma wraig Jeroboam yn gwneud fel roedd ei gŵr wedi dweud wrthi, a mynd i dŷ Achïa yn Seilo. Roedd Achïa yn ddall, wedi colli ei olwg yn ei henaint. | |
I Ki | WelBeibl | 14:5 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Mae gwraig Jeroboam yn dod atat ti i holi ynglŷn â'i mab sy'n sâl. Pan ddaw hi bydd yn cymryd arni fod yn rhywun arall. Dyma beth rwyt ti i'w ddweud wrthi: …” | |
I Ki | WelBeibl | 14:6 | Pan glywodd Achïa sŵn ei thraed hi wrth y drws, dyma fe'n galw, “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam! Pam wyt ti'n cymryd arnat dy fod yn rhywun arall? Mae gen i newyddion drwg i ti. | |
I Ki | WelBeibl | 14:7 | Dos, a dweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi dy gymryd di o blith y bobl a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 14:8 | Dw i wedi cymryd y deyrnas oddi ar deulu Dafydd a'i rhoi i ti. Ond yn wahanol i'm gwas Dafydd, ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion na'm dilyn i o ddifri, a gwneud beth sy'n iawn gen i. | |
I Ki | WelBeibl | 14:9 | Ti wedi gwneud mwy o ddrwg na phawb aeth o dy flaen di. Ti wedi ngwylltio i drwy wneud duwiau eraill – delwau o fetel. Ti wedi fy nhaflu i o'r ffordd. | |
I Ki | WelBeibl | 14:10 | Felly bydda i'n gwneud drwg i dy linach brenhinol di Jeroboam. Bydda i'n cael gwared â phob dyn yn Israel, y caeth a'r rhydd. Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboam ac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl! | |
I Ki | WelBeibl | 14:11 | Bydd pobl Jeroboam sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar! —dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud!’ | |
I Ki | WelBeibl | 14:13 | Bydd pobl Israel i gyd yn galaru ar ei ôl ac yn mynd i'w angladd. Fe fydd yr unig un o deulu Jeroboam fydd yn cael ei gladdu'n barchus, am mai fe ydy'r unig un o'r teulu mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gweld unrhyw ddaioni ynddo. | |
I Ki | WelBeibl | 14:14 | Bydd yr ARGLWYDD yn codi brenin iddo'i hun fydd yn difa teulu Jeroboam yn llwyr. Bydd hyn yn digwydd ar unwaith! A beth ddaw wedyn? | |
I Ki | WelBeibl | 14:15 | Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi'i wylltio drwy godi polion pren i'r dduwies Ashera. | |
I Ki | WelBeibl | 14:16 | Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.” | |
I Ki | WelBeibl | 14:17 | Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw. | |
I Ki | WelBeibl | 14:18 | A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud drwy ei was y proffwyd Achïa. | |
I Ki | WelBeibl | 14:19 | Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 14:20 | Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le. | |
I Ki | WelBeibl | 14:21 | Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd ARGLWYDD wedi'i dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naamâ, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam. | |
I Ki | WelBeibl | 14:22 | Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nag roedd eu hynafiaid wedi gwneud. | |
I Ki | WelBeibl | 14:23 | Roedden nhw'n codi allorau lleol, colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera ar ben bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. | |
I Ki | WelBeibl | 14:24 | Roedd yna hyd yn oed ddynion oedd yn buteiniaid teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. | |
I Ki | WelBeibl | 14:25 | Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. | |
I Ki | WelBeibl | 14:26 | Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a phalas y brenin – y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi'u gwneud! | |
I Ki | WelBeibl | 14:27 | Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tarianau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin. | |
I Ki | WelBeibl | 14:28 | Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu. | |
I Ki | WelBeibl | 14:29 | Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. | |