I KINGS
Chapter 1
I Ki | WelBeibl | 1:1 | Roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen iawn. Er iddyn nhw roi blancedi drosto roedd yn methu cadw'n gynnes. | |
I Ki | WelBeibl | 1:2 | Dyma'i weision yn dweud wrtho, “Meistr. Gad i ni chwilio am ferch ifanc i dy nyrsio di a gofalu amdanat ti. Bydd hi'n gallu gorwedd gyda ti, a chadw ein meistr, y brenin, yn gynnes.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:3 | Felly, dyma nhw'n chwilio drwy wlad Israel i gyd am ferch ifanc hardd, a ffeindio Abisag o Shwnem, a mynd â hi at y brenin. | |
I Ki | WelBeibl | 1:4 | Roedd hi'n ferch hynod o hardd. A hi fuodd yn edrych ar ôl y brenin a'i nyrsio. Ond wnaeth e ddim cael perthynas rywiol gyda hi. | |
I Ki | WelBeibl | 1:5 | Yna dyma Adoneia, mab Dafydd a Haggith, yn dechrau cael syniadau ac yn cyhoeddi, “Dw i am fod yn frenin.” Felly, dyma fe'n casglu cerbydau a cheffylau iddo'i hun, a threfnu cael hanner cant o warchodwyr personol. | |
I Ki | WelBeibl | 1:6 | (Wnaeth ei dad ddim ymyrryd o gwbl, a gofyn iddo, “Beth wyt ti'n wneud?” Roedd Adoneia yn ddyn golygus iawn, a fe oedd y nesaf i gael ei eni ar ôl Absalom.) | |
I Ki | WelBeibl | 1:7 | Dyma Adoneia'n trafod gyda Joab, mab Serwia, a gydag Abiathar yr offeiriad. A dyma'r ddau'n ei gefnogi a'i helpu. | |
I Ki | WelBeibl | 1:8 | Ond wnaeth Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na Nathan y proffwyd, na Shimei, na Rei, na gwarchodlu personol Dafydd ddim ochri gydag Adoneia. | |
I Ki | WelBeibl | 1:9 | Dyma Adoneia yn mynd i graig Socheleth sy'n agos i En-rogel, ac aberthu defaid, ychen a lloi wedi'u pesgi yno. Roedd wedi gwahodd ei frodyr i gyd a holl swyddogion y brenin oedd yn dod o Jwda. | |
I Ki | WelBeibl | 1:10 | Ond doedd e ddim wedi gwahodd Nathan y proffwyd, na Benaia, na gwarchodlu personol Dafydd, na Solomon ei frawd chwaith. | |
I Ki | WelBeibl | 1:11 | Dyma Nathan yn dweud wrth Bathseba, mam Solomon, “Wyt ti wedi clywed fod Adoneia, mab Haggith, wedi gwneud ei hun yn frenin heb i Dafydd wybod? | |
I Ki | WelBeibl | 1:12 | Gwranda, i mi roi cyngor i ti sut i achub dy fywyd dy hun a bywyd Solomon dy fab. | |
I Ki | WelBeibl | 1:13 | Dos at y Brenin Dafydd a dweud wrtho, ‘Fy mrenin, syr, wnest ti ddim addo i mi mai fy mab i, Solomon, fyddai'n frenin ar dy ôl di? Dwedaist mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di. Felly sut bod Adoneia'n frenin?’ | |
I Ki | WelBeibl | 1:14 | Wedyn tra rwyt ti wrthi'n siarad â'r brenin dof i i mewn ar dy ôl di ac ategu'r hyn ti'n ddweud.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:15 | Felly dyma Bathseba'n mynd i mewn i ystafell y brenin. (Roedd y brenin yn hen iawn, ac roedd Abisag, y ferch o Shwnem, yn gofalu amdano.) | |
I Ki | WelBeibl | 1:16 | Dyma Bathseba'n plygu i lawr o flaen y brenin, a dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Beth sydd?” | |
I Ki | WelBeibl | 1:17 | “Syr,” meddai Bathseba, “Wnest ti addo o flaen yr ARGLWYDD mai Solomon, fy mab i, fyddai'n frenin ar dy ôl di, ac mai fe fyddai'n eistedd ar dy orsedd di. | |
I Ki | WelBeibl | 1:18 | Ond nawr mae Adoneia wedi'i wneud yn frenin, a dwyt ti, syr, yn gwybod dim am y peth! | |
I Ki | WelBeibl | 1:19 | Mae wedi aberthu llond lle o wartheg, lloi wedi'u pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion di i gyd ato, ac Abiathar yr offeiriad a Joab, pennaeth y fyddin. Ond gafodd dy was Solomon ddim gwahoddiad. | |
I Ki | WelBeibl | 1:20 | Syr, mae Israel gyfan yn disgwyl i ti, y brenin, ddweud wrthyn nhw pwy sydd i deyrnasu ar dy ôl di. | |
I Ki | WelBeibl | 1:21 | Syr, os na wnei di, ar ôl i ti farw bydda i a Solomon yn cael ein trin fel troseddwyr.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:23 | Dyma ddweud wrth y brenin, “Mae Nathan y proffwyd yma”, a dyma fe'n mynd i mewn ac yn ymgrymu o flaen y brenin â'i wyneb ar lawr. | |
I Ki | WelBeibl | 1:24 | Yna dyma Nathan yn gofyn, “Fy mrenin, syr, wnest ti ddweud mai Adoneia sydd i fod yn frenin ar dy ôl di, ac mai fe sydd i eistedd ar dy orsedd di? | |
I Ki | WelBeibl | 1:25 | Achos heddiw mae wedi aberthu llwythi o wartheg, lloi wedi'u pesgi a defaid, ac wedi gwahodd dy feibion i gyd, arweinwyr y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. A dyna lle maen nhw'n bwyta ac yn yfed gydag e ac yn gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Adoneia!’ | |
I Ki | WelBeibl | 1:26 | Ond wnaeth e ddim rhoi gwahoddiad i mi, dy was di, nac i Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, nac i dy was Solomon chwaith. | |
I Ki | WelBeibl | 1:27 | Ydy fy meistr, y brenin, wedi gwneud hyn heb ddweud wrthon ni pwy oedd i deyrnasu ar dy ôl?” | |
I Ki | WelBeibl | 1:28 | Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Bathseba yn ôl yma!” A dyma hi'n dod a sefyll o'i flaen. | |
I Ki | WelBeibl | 1:29 | A dyma'r brenin yn addo iddi, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un sydd wedi fy achub i o bob helynt: | |
I Ki | WelBeibl | 1:30 | fel gwnes i addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel, dw i'n dweud eto heddiw mai dy fab di, Solomon, sydd i fod yn frenin ar fy ôl i. Fe sydd i eistedd ar yr orsedd yn fy lle i.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:31 | Dyma Bathseba'n plygu'n isel o flaen y brenin, a dweud, “Fy Mrenin Dafydd, boed i ti fyw am byth!” | |
I Ki | WelBeibl | 1:32 | Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada yma.” Wedi iddyn nhw ddod, | |
I Ki | WelBeibl | 1:33 | dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch fy ngweision i gyd gyda chi, rhowch Solomon i farchogaeth ar gefn fy mul i, ac ewch â fe i lawr i Gihon. | |
I Ki | WelBeibl | 1:34 | Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i'w eneinio'n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Solomon!’ | |
I Ki | WelBeibl | 1:35 | Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy'r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:36 | A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie wir! Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny. | |
I Ki | WelBeibl | 1:37 | Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:38 | Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon. | |
I Ki | WelBeibl | 1:39 | Wedyn, dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o'r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a'i eneinio'n frenin. Yna dyma nhw'n canu'r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i'r Brenin Solomon!” | |
I Ki | WelBeibl | 1:40 | A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio. | |
I Ki | WelBeibl | 1:41 | Roedd Adoneia, a'r holl bobl roedd e wedi'u gwahodd ato, wrthi'n gorffen bwyta pan glywon nhw'r sŵn. Pan glywodd Joab sŵn y corn hwrdd, dyma fe'n gofyn, “Beth ydy'r holl dwrw yna yn y ddinas?” | |
I Ki | WelBeibl | 1:42 | Wrth iddo siarad dyma Jonathan, mab Abiathar yr offeiriad, yn cyrraedd. A dyma Adoneia'n dweud wrtho, “Tyrd i mewn. Ti'n ddyn da, ac mae'n siŵr fod gen ti newyddion da i ni.” | |
I Ki | WelBeibl | 1:43 | Ond dyma Jonathan yn ateb, “Na, dim o gwbl, syr. Mae'r Brenin Dafydd wedi gwneud Solomon yn frenin. | |
I Ki | WelBeibl | 1:44 | Dyma fe'n anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada gyda'i warchodlu (y Cretiaid a'r Pelethiaid), a rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y brenin. | |
I Ki | WelBeibl | 1:45 | Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio fe'n frenin yn Gihon. Wedyn, dyma nhw'n mynd yn ôl i fyny i Jerwsalem yn dathlu, ac mae'r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna ydy'r sŵn dych chi'n ei glywed. | |
I Ki | WelBeibl | 1:47 | Pan aeth y swyddogion i gyd i longyfarch y Brenin Dafydd, dyma nhw'n dweud wrtho, ‘Boed i Dduw wneud Solomon yn fwy enwog na ti, a gwneud ei deyrnasiad e'n fwy llwyddiannus!’ Roedd y brenin yn plygu i addoli Duw ar ei wely | |
I Ki | WelBeibl | 1:48 | a'i ymateb oedd, ‘Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel. Heddiw mae wedi rhoi olynydd i mi ar yr orsedd, a dw i wedi cael byw i weld y peth!’” | |
I Ki | WelBeibl | 1:49 | Dyma bawb oedd Adoneia wedi'u gwahodd ato yn panicio, codi ar eu traed a gwasgaru i bob cyfeiriad. | |
I Ki | WelBeibl | 1:50 | Roedd gan Adoneia ei hun ofn Solomon hefyd, a dyma fe'n mynd a gafael yng nghyrn yr allor. | |
I Ki | WelBeibl | 1:51 | Dyma nhw'n dweud wrth Solomon, “Mae gan Adoneia dy ofn di. Mae e'n gafael yng nghyrn yr allor ac yn dweud, ‘Dw i eisiau i'r Brenin Solomon addo y bydd e ddim yn fy lladd i â'r cleddyf.’” | |
I Ki | WelBeibl | 1:52 | A dyma Solomon yn dweud, “Os bydd e'n ffyddlon, fydd dim blewyn ar ei ben yn cael niwed. Ond os bydd e'n gwneud rhywbeth drwg, bydd yn marw.” | |