I KINGS
Chapter 21
I Ki | WelBeibl | 21:1 | Wedyn dyma hyn yn digwydd: Roedd gan ddyn o'r enw Naboth, o Jesreel, winllan reit wrth ymyl palas Ahab, brenin Samaria. | |
I Ki | WelBeibl | 21:2 | A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi'n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti'n ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:3 | Ond dyma Naboth yn gwrthod, “Na, dim ar unrhyw gyfri! Mae'r tir wedi perthyn i'r teulu ers cenedlaethau; allwn i byth ei rhoi hi i ti.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:4 | Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i'r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi'r winllan iddo. Dyma fe'n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, a gwrthod bwyta. | |
I Ki | WelBeibl | 21:5 | Yna dyma Jesebel, ei wraig, yn dod ato a gofyn, “Pam wyt ti mewn hwyliau mor ddrwg ac yn gwrthod bwyta?” | |
I Ki | WelBeibl | 21:6 | A dyma fe'n dweud, “Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan i mi; neu os oedd yn well ganddo, gwnes i gynnig ei chyfnewid hi am winllan arall. Ond mae e wedi gwrthod rhoi'r winllan i mi.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:7 | A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti'n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:8 | Aeth ati i ysgrifennu llythyrau yn enw Ahab, rhoi sêl y brenin arnyn nhw, a'u hanfon at yr arweinwyr a'r bobl bwysig oedd yn byw yn yr un gymuned â Naboth. | |
I Ki | WelBeibl | 21:9 | Dyma ysgrifennodd hi: “Cyhoeddwch ddiwrnod o ymprydio, a rhoi Naboth i eistedd mewn lle amlwg o flaen pawb. | |
I Ki | WelBeibl | 21:10 | Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'u gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth yn gyhoeddus o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:11 | Dyma arweinwyr a phobl bwysig y gymuned yn gwneud yn union fel roedd Jesebel wedi dweud yn y llythyrau. | |
I Ki | WelBeibl | 21:12 | Dyma nhw'n cyhoeddi diwrnod o ympryd, ac yn rhoi Naboth mewn lle amlwg o flaen y bobl. | |
I Ki | WelBeibl | 21:13 | Dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth, a'i gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw. | |
I Ki | WelBeibl | 21:14 | Yna, dyma nhw'n anfon neges at Jesebel, “Mae Naboth wedi cael ei ladd gyda cherrig.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:15 | Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dyma hi'n dweud wrth Ahab, “Cod, cymer y winllan roedd Naboth o Jesreel wedi gwrthod ei gwerthu i ti. Dydy Naboth ddim yn fyw; mae e wedi marw.” | |
I Ki | WelBeibl | 21:16 | Pan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, dyma fe'n mynd i lawr i'r winllan i'w hawlio hi iddo'i hun. | |
I Ki | WelBeibl | 21:18 | “Dos i gyfarfod Ahab, brenin Israel, yn Samaria. Cei hyd iddo yng ngwinllan Naboth. Mae wedi mynd yno i hawlio'r winllan iddo'i hun. | |
I Ki | WelBeibl | 21:19 | Dwed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Ar ôl llofruddio'r dyn, wyt ti hefyd am ddwyn ei eiddo?’ Dwed wrtho hefyd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Lle bu'r cŵn yn llyfu gwaed Naboth, bydd cŵn yn llyfu dy waed di hefyd – ie, ti!’” | |
I Ki | WelBeibl | 21:20 | Dyma Ahab yn dweud wrth Elias, “Felly, fy ngelyn i, ti wedi dod o hyd i mi!” A dyma Elias yn ateb, “Ydw, dw i wedi dod o hyd i ti. Ti'n benderfynol o wneud pethau sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD! | |
I Ki | WelBeibl | 21:21 | Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i wneud drwg i ti, a dod â dy linach i ben. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd. | |
I Ki | WelBeibl | 21:22 | Bydda i'n gwneud yr un peth i dy linach di ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa am dy fod ti wedi fy ngwylltio i a gwneud i Israel bechu.’ | |
I Ki | WelBeibl | 21:23 | A dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jesebel, ‘Bydd cŵn yn bwyta Jesebel o fewn waliau Jesreel.’ | |
I Ki | WelBeibl | 21:24 | ‘Bydd pobl Ahab sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!’” | |
I Ki | WelBeibl | 21:25 | (Fuodd yna neb tebyg i Ahab, oedd mor benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac roedd Jesebel ei wraig yn ei annog e. | |
I Ki | WelBeibl | 21:26 | Roedd yn gwneud pethau hollol afiach, yn addoli eilunod diwerth yn union yr un fath â'r Amoriaid, y bobl roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.) | |
I Ki | WelBeibl | 21:27 | Pan glywodd Ahab neges Elias, dyma fe'n rhwygo'i ddillad a gwisgo sachliain, a mynd heb fwyd. Roedd yn cysgu mewn sachliain ac yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd. | |