I KINGS
Chapter 16
| I Ki | WelBeibl | 16:2 | “Gwnes i dy godi di o'r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i'm pobl bechu. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:3 | Felly, dw i'n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:4 | Bydd pobl Baasha sy'n marw yn y ddinas yn cael eu bwyta gan y cŵn. Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad yn cael eu bwyta gan yr adar!” | |
| I Ki | WelBeibl | 16:5 | Mae gweddill hanes Baasha – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:6 | Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:7 | Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda theulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol! | |
| I Ki | WelBeibl | 16:8 | Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:9 | Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Artsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa). | |
| I Ki | WelBeibl | 16:10 | Aeth Simri i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:11 | Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen yn fyw – lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:12 | Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:13 | Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi'u gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:14 | Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:15 | Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:16 | Dyma'r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwynio yn erbyn y brenin a'i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma'r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:17 | A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:18 | Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi'i chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:19 | Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:20 | Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:21 | Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:22 | Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:23 | Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:24 | Prynodd Omri fryn Samaria gan Shemer am saith deg cilogram o arian. Dyma fe'n adeiladu tref ar y bryn a'i galw'n Samaria, ar ôl Shemer, cyn-berchennog y mynydd. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:26 | Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam fab Nebat; roedd yn gwneud i Israel hefyd bechu a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:27 | Mae gweddill hanes Omri – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:28 | Pan fu farw Omri, cafodd ei gladdu yn Samaria. A dyma Ahab, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:29 | Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:31 | Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu ac addoli'r Baal! | |
| I Ki | WelBeibl | 16:33 | Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nag unrhyw frenin o'i flaen. | |
| I Ki | WelBeibl | 16:34 | Yn y cyfnod pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, wrth osod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn. | |