I KINGS
Chapter 6
I Ki | WelBeibl | 6:1 | Dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD yn ystod ei bedwaredd flwyddyn fel brenin, yn yr ail fis, sef mis Sif. Roedd hi'n bedwar cant wyth deg o flynyddoedd ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft. | |
I Ki | WelBeibl | 6:2 | Roedd y deml yn ddau ddeg saith metr o hyd, naw metr o led, ac un deg tri metr a hanner o uchder. | |
I Ki | WelBeibl | 6:5 | Yna dyma nhw'n codi estyniad, o gwmpas waliau'r prif adeilad a'r cysegr, gydag ystafelloedd ochr ynddo. | |
I Ki | WelBeibl | 6:6 | Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain. | |
I Ki | WelBeibl | 6:7 | Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu. | |
I Ki | WelBeibl | 6:8 | Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr. | |
I Ki | WelBeibl | 6:9 | Ar ôl gorffen adeiladu'r deml ei hun, dyma nhw'n rhoi to drosti wedi'i wneud o drawstiau a phaneli o gedrwydd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:10 | Yna codi'r ystafelloedd o'i chwmpas – pob un yn ddau fetr o uchder, gyda trawstiau o goed cedrwydd yn eu dal yn sownd i waliau'r deml ei hun. | |
I Ki | WelBeibl | 6:12 | “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i'n cadw'r addewid wnes i i dy dad Dafydd. Bydda i'n byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi'i chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.” | |
I Ki | WelBeibl | 6:13 | “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i'n cadw'r addewid wnes i i dy dad Dafydd. Bydda i'n byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi'i chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.” | |
I Ki | WelBeibl | 6:15 | Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:16 | Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi'i godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:18 | Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi'i gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg. | |
I Ki | WelBeibl | 6:20 | Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath. | |
I Ki | WelBeibl | 6:21 | Roedd tu mewn y deml i gyd wedi'i orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi'i gorchuddio ag aur hefyd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:22 | Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig. | |
I Ki | WelBeibl | 6:23 | Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau gerwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra. | |
I Ki | WelBeibl | 6:24 | Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall. | |
I Ki | WelBeibl | 6:27 | Dyma Solomon yn rhoi'r ddau gerwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'u hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau gerwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. | |
I Ki | WelBeibl | 6:29 | Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi'u cerfio drostyn nhw gyda lluniau o gerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored. | |
I Ki | WelBeibl | 6:31 | Roedd drysau o goed olewydd i fynd i mewn i'r gell fewnol gysegredig. Roedd pyst a lintel y drws yn bumochrog. | |
I Ki | WelBeibl | 6:32 | Roedd y ddau ddrws gyda cerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi'u cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl gyda haen o aur yn ei orchuddio. | |
I Ki | WelBeibl | 6:33 | Roedd pyst y drysau i fynd i mewn i brif neuadd y deml yn sgwâr, a'r rhain hefyd wedi'u gwneud o goed olewydd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:34 | Ond roedd y ddau ddrws eu hunain yn goed pinwydd. Roedd y ddau ddrws wedi'u gwneud o ddau ddarn oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:35 | Roedd cerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi'u cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi'i orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio. | |
I Ki | WelBeibl | 6:36 | Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi'i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi'u naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd. | |
I Ki | WelBeibl | 6:37 | Roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r deml ym mis Sif, yn ystod pedwaredd flwyddyn Solomon fel brenin. | |