II SAMUEL
Chapter 8
II S | WelBeibl | 8:1 | Beth amser wedyn, dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid ac yn eu gorfodi nhw i ildio iddo. | |
II S | WelBeibl | 8:2 | Wedyn dyma fe'n concro Moab. Gwnaeth i'r dynion orwedd mewn rhes ar lawr, a dyma fe'n eu mesur nhw'n grwpiau gyda llinyn. Roedd dau hyd y llinyn i gael eu lladd, ac un hyd llinyn i gael byw. A dyna sut daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo. | |
II S | WelBeibl | 8:3 | Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser fab Rechob, brenin talaith Soba yn Syria. Roedd hwnnw ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan afon Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. | |
II S | WelBeibl | 8:4 | Ond dyma Dafydd yn dal mil saith gant o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. | |
II S | WelBeibl | 8:5 | A phan ddaeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dwy fil ohonyn nhw hefyd. | |
II S | WelBeibl | 8:6 | Wedyn, dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syria yn Damascus. Daeth y Syriaid o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. | |
II S | WelBeibl | 8:10 | dyma fe'n anfon ei fab Joram at Dafydd i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Aeth Joram â phob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e; | |
II S | WelBeibl | 8:11 | a dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi'i gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, | |
II S | WelBeibl | 8:12 | sef Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid, a'r ysbail roedd wedi'i gymryd oddi ar Hadadeser fab Rechob, brenin Soba. | |
II S | WelBeibl | 8:13 | Daeth Dafydd yn enwog hefyd ar ôl iddo daro un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen. | |
II S | WelBeibl | 8:14 | A dyma fe'n gosod garsiynau ar hyd a lled Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd e'n mynd. | |
II S | WelBeibl | 8:15 | Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. | |
II S | WelBeibl | 8:16 | Joab (mab Serwia) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin. | |
II S | WelBeibl | 8:17 | Sadoc fab Achitwf ac Achimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Seraia oedd ei ysgrifennydd gwladol. | |