II SAMUEL
Chapter 13
II S | WelBeibl | 13:1 | Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn: Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi. | |
II S | WelBeibl | 13:2 | Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi. | |
II S | WelBeibl | 13:3 | Ond roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn. | |
II S | WelBeibl | 13:4 | Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.” | |
II S | WelBeibl | 13:5 | Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.’” | |
II S | WelBeibl | 13:6 | Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o mlaen i, ac wedyn fy mwydo i.” | |
II S | WelBeibl | 13:7 | Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo. | |
II S | WelBeibl | 13:8 | Felly dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio. | |
II S | WelBeibl | 13:9 | Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision, “Pawb allan o ma!”, a dyma nhw i gyd yn mynd allan. | |
II S | WelBeibl | 13:10 | Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely. | |
II S | WelBeibl | 13:11 | Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.” | |
II S | WelBeibl | 13:12 | “Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll. | |
II S | WelBeibl | 13:13 | Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.” | |
II S | WelBeibl | 13:14 | Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio. | |
II S | WelBeibl | 13:15 | Ond wedyn dyma fe'n dechrau teimlo casineb llwyr ati. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!” | |
II S | WelBeibl | 13:16 | A dyma Tamar yn ei ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni. | |
II S | WelBeibl | 13:17 | A dyma fe'n galw'i was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan o ma, a chloi'r drws tu ôl iddi!” | |
II S | WelBeibl | 13:18 | Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl. Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo). | |
II S | WelBeibl | 13:19 | Yna dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crio'n uchel. | |
II S | WelBeibl | 13:20 | Dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â phoeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon. | |
II S | WelBeibl | 13:22 | Roedd Absalom yn gwrthod siarad gydag Amnon, run gair; roedd yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar. | |
II S | WelBeibl | 13:23 | Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti. | |
II S | WelBeibl | 13:24 | Aeth at y brenin hefyd a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a thyrd â dy swyddogion hefyd.” | |
II S | WelBeibl | 13:25 | Atebodd y brenin, “Na, machgen i, ddown ni ddim i gyd, neu byddwn ni'n faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn ei fendithio. | |
II S | WelBeibl | 13:26 | Wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.” Holodd y brenin, “Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” | |
II S | WelBeibl | 13:27 | Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi gwledd digon da i frenin. | |
II S | WelBeibl | 13:28 | Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e. Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!” | |
II S | WelBeibl | 13:29 | Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc. | |
II S | WelBeibl | 13:30 | Tra oedden nhw ar eu ffordd adre, clywodd Dafydd si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw. | |
II S | WelBeibl | 13:31 | Felly cododd y brenin, rhwygo'i ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo'u dillad nhw hefyd. | |
II S | WelBeibl | 13:32 | Ond yna dyma Jonadab (mab Shamma, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi'i lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio i wneud hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar. | |
II S | WelBeibl | 13:33 | Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi'u lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw, | |
II S | WelBeibl | 13:34 | a bydd Absalom wedi dianc.” Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron. | |
II S | WelBeibl | 13:35 | A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!” | |
II S | WelBeibl | 13:36 | A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crio'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crio hefyd. | |
II S | WelBeibl | 13:37 | Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai fab Amihwd, brenin Geshwr. | |