Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 17
II S WelBeibl 17:1  Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd 12,000 o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno!
II S WelBeibl 17:2  Bydd e wedi blino'n lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda i'n ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd.
II S WelBeibl 17:3  Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.”
II S WelBeibl 17:4  Roedd yn swnio'n gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd.
II S WelBeibl 17:5  Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe i'w ddweud.”
II S WelBeibl 17:6  Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy e'n gyngor da? Ac os ddim, beth wyt ti'n awgrymu?”
II S WelBeibl 17:7  Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma.
II S WelBeibl 17:8  Mae dy dad a'i ddynion yn filwyr dewr. Ti'n gwybod hynny'n iawn. Maen nhw'n gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysgu'r nos gyda'i ddynion.
II S WelBeibl 17:9  Mae'n siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai e'n ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhw'n cael eu lladd, byddai'r stori'n mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa.
II S WelBeibl 17:10  Byddai hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai sy'n gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag e'n filwyr profiadol.
II S WelBeibl 17:11  Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib i'w chyfrif!) A dw i'n meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw i'r frwydr.
II S WelBeibl 17:12  Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn ni'n disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag e'n cael eu gadael yn fyw!
II S WelBeibl 17:13  A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r dyffryn. Fydd dim un garreg fechan ar ôl!”
II S WelBeibl 17:14  A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.
II S WelBeibl 17:15  Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi'i ddweud.
II S WelBeibl 17:16  “Anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”
II S WelBeibl 17:17  Roedd Jonathan ac Achimaäts (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.)
II S WelBeibl 17:18  Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi'u gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys, ac aethon nhw i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew.
II S WelBeibl 17:19  Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel bod dim i'w weld.
II S WelBeibl 17:20  Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaäts a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem.
II S WelBeibl 17:21  Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaäts a Jonathan yn dringo allan o'r pydew a mynd i roi'r neges i'r Brenin Dafydd. Dyma nhw'n dweud wrtho am frysio i groesi'r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn.
II S WelBeibl 17:22  Felly dyma Dafydd a'i fyddin yn croesi afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.
II S WelBeibl 17:23  Pan welodd Achitoffel fod ei gyngor wedi'i wrthod, dyma fe'n cyfrwyo'i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe'n crogi ei hun; a chafodd ei gladdu ym medd y teulu.
II S WelBeibl 17:24  Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesi'r Iorddonen.
II S WelBeibl 17:25  Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad o'r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.)
II S WelBeibl 17:26  Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead.
II S WelBeibl 17:27  Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash o Rabba'r Ammoniaid, Machir fab Ammiel o Lo-defâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm,
II S WelBeibl 17:28  yn dod â gwlâu, powlenni, a llestri iddo. Dyma nhw hefyd yn dod â bwyd i Dafydd a'r milwyr oedd gydag e – gwenith, haidd, blawd, grawn wedi'i grasu, ffa, ffacbys,
II S WelBeibl 17:29  mêl, caws colfran o laeth dafad a chaws o laeth buwch. Roedden nhw'n gwybod y byddai pawb eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig ar ôl bod allan yn yr anialwch.